2022-23 – Cyhoeddi cyfraddau’r Cyflog Byw ar Fedi 22ain

Gyda chwyddiant yn y DU yn cyrraedd ffigyrau dwbl y mis hwn, sef y lefel uchaf mewn pedwar degawd, mae pawb yn teimlo’r pwysau, ond gwyddon taw gweithwyr cyflog-isel fydd yn teimlo’r effaith yn fwy na’r mwyafrif. Wrth i gostau byw godi i’r entrychion, mae’r ymgyrch am Gyflog Byw gwirioneddol yn bwysicach nag erioed.

Eleni, mewn ymateb i gostau byw sy’n cynyddu’n gyflym, mae’r Sefydliad Cyflog Byw yn symyd ymlaen y cyhoeddiad am y cyfraddau Cyflog Byw gwirioneddol newydd i 22 Medi 2022 .

Drwy ddwyn y cyhoeddiad ymlaen, y gobaith yw y bydd Cyflogwyr Cyflog Byw yn gallu gosod y cyfraddau newydd ar waith cyn gynted â phosibl er mwyn cefnogi eu gweithwyr yn y cyfnod anodd sy’n eu hwynebu. Ond, serch hynny, yr ydym yn deall bod hwn yn gyfnod anodd i bawb, a bydd gan gyflogwyr tan fis Mai 2023 i weithredu’r gyfradd newydd.

Ar ddydd Iau, Medi 29, yn dilyn cyhoeddi’r gyfradd newydd, bydd y LWF yn cynnal gweminar Cyflogwr Cyflog Byw ar gyfer Cyflogwyr Cyflog Byw achrededig. Bydd y gweminar yn esbonio’r ffordd y mae’r cyfraddau yn cael eu pennu, sut y gallwch gael mynediad at gefnogaeth gan y tîm Cyflog Byw os bydd angen gwneud ac yn cynnig cyfle ichi holi unrhyw gwestiynau sydd gennych. I fynychu, cofrestrwch nawr.

Mae’r argyfwng costau byw yma yn wir wedi tynnu sylw haeddiannol at y Cyflog Byw, a dangos ei fod yn llinell fywyd hanfodol i weithwyr a’u teuluoedd. Yr ydym yn gweld twf aruthrol, gyda dros 450 o gyflogwyr Cymru yn cydnabod bod y Cyflog Byw nid yn unig yn rhoi sicrwydd i weithwyr a’u teuluoedd, ond hefyd yn helpu busnesau i recriwtio a chadw gweithwyr, a chreu gweithlu hapus a chynhyrchiol hefyd.







Discover more

Scroll to Top