Chwarter canrif o'r Cyflog Byw gwirioneddol
Mae 2026 yn nodi 25 mlynedd ers sefydlu’r mudiad Cyflog Byw
Ers chwarter canrif, mae’r mudiad Cyflog Byw wedi helpu i ailddiffinio beth mae cyflog teg yn ei olygu ym Mhrydain.
Dechreuodd fel syniad gobeithiol ymysg gweithwyr ar gyflogau isel yn Nwyrain Llundain a aeth ati i ymgyrchu dros gyflog teg, ac mae bellach wedi tyfu i fod yn un o ymgyrchoedd cymdeithas sifil mwyaf llwyddiannus y 21ain ganrif.
Mae’r Cyflog Byw gwirioneddol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i filoedd o weithwyr, yn cryfhau busnesau, ac yn helpu i gefnogi cymdeithas decach. Wrth i ni nodi’r garreg filltir bwysig hon, rydyn ni’n dathlu pa mor bell mae’r mudiad wedi dod ac yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol: sef creu gwaith sy’n gweithio i bawb.
Rydyn ni’n dathlu bod yn rhan o’r mudiad Cyflog Byw ers iddo ddechrau 25 mlynedd yn ôl.
Cael y diweddaraf am ein dathliadau i nodi’r garreg filltir.
Rydyn ni’n dathlu bod yn rhan o’r mudiad Cyflog Byw ers iddo ddechrau 25 mlynedd yn ôl.
10 mlynedd yn cefnogi'r Cyflog Byw yng Nghymru
Fel rhan o’r dathliadau, byddwn hefyd yn rhannu ein cerrig milltir ein hunain, wrth i ni ddathlu 10 mlynedd fel partner achredu Cyflog Byw swyddogol yng Nghymru. Byddwn yn arddangos cyflogwyr, gweithwyr ac arweinwyr Cyflog Byw o bob cwr o ddiwydiannau a sectorau i helpu i wireddu’r Cyflog Byw go iawn yng Nghymru.
Dewch i gwrdd â Little Valley Bakery, becws artisan lleol yn Abertawe sydd wedi ennill gwobrau.
Fel Cyflogwr Cyflog Byw, maen nhw’n rhan o fudiad cynyddol o fusnesau sy’n buddsoddi yn eu pobl, ac yn profi’r...
Darllen mwy >Hard Lines – Clywed sut mae achrediad Cyflog Byw yn gwneud gwahaniaeth i’w pobl a’u cwmni
Dewch i gwrdd â Hard Lines, cwmni rhostio coffi o Gymru sydd wedi ennill gwobrau, a Chyflogwr Cyflog Byw balch.
Darllen mwy >