Y cam cyntaf er mwyn symud tuag at gyflog byw i Gymru yw dod yn gyflogwr achrededig a sicrhau bod eich sefydliad yn talu staff cyfradd sy’n cyfro cost byw. Os ydych chi yma, rydyn ni’n cymryd eich bod chi wedi yn barod ond os na, gallech chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar y proses.
Os nad ydych chi’n barod i achredu eto, efallai hoffech chi deall mwy am y gwahaniaeth rhwng y cyflog byw go iawn a’r cyflog byw cenedlaethol yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ar y cyflog byw cenedlaethol a chyn i’r gyfradd newydd yn cael ei chyhoeddi ar 15fed o Dachwedd.
1. Arddangoswch eich logo!
Mae gyda chyflogwyr achrededig mynediad i’r logo Cyflog Byw sy’n dangos eich bod chi’n gyflogwr cyfrifol – sy’n talu’r cyflog byw.
Rydych chi’n gallu arddangos y logo gyda balch yn eich gweithle wrth ddefnyddio’r sticeri y cawsoch chi wrth achredu neu feddwl yn greadigol fel gwnaeth Cyngor Caerdydd – gweithio gyda ni i ffeindio logo digon mawr i fynd ar ochr cerbydau gwaredu gwastraff neu i hedfan ar fflagiau ar waliau Castell Caerdydd.
Mae hefyd cystadleuaeth ffenestr cyflog byw yn rhedeg tan Wythnos Cyflog Byw, lle gallech chi rannu eich busnes ac arddangosfa ffenestr ar y cyfryngau cymdeithasol a chael siawns o ennill pecyn ffenestr.
2. Cyfathrebu yn ystod Wythnos Cyflog Byw a chadw ymlaen y sgwrs ar ôl!
Mae codi ymwybyddiaeth yn gyhoeddus a hefyd yn fewnol yn eich sefydliad yn lle gwych i ddechrau.
Mae gan y Sefydliad Cyflog Byw ystod wych o nwyddau Cyflog Bwy ac mae’n ffordd wych o roi wybod am eich ymrwymiad Cyflog Byw i’ch cyd-weithwyr. Efallai y bydd, hyd yn oed yn sbarduno sgwrs ar yr hyn y mae’n ei olygu. Gallai’r un peth ddigwydd ar alwadau Zoom pan fyddwch chi’n yfed te o’ch mwg Cyflog Byw neu’n defnyddio cefndir Zoom Cyflog Byw wedi’i brandio.
i gyfoedion : Mae marchnata ar lafar gwlad yn parhau i fod yn un o’r offer mwyaf effeithiol. Mae argymhelliad yn mynd yn bell, felly soniwch am eich ymrwymiad Cyflog Byw i’ch cyfoedion neu’ch cyd-weithwyr. Rydyn ni’n fwy na pharod i gael ein cyflwyno i unrhyw un a hoffai gael mwy o wybodaeth am achrediad.
Ar gyfryngau cymdeithasol : i’r rhai ohonoch sydd â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol gweithredol, mae gennym ddigon o ddeunyddiau y gallwch eu lawr lwytho neu gysylltu os hoffech chi gydweithredu ar rywbeth mwy. Mae Pecynnau Digidol Saesneg a Chymraeg ar gael gyda llawer o graffeg y gallwch eu postio yn y cyfnod cyn ac yn ystod Wythnos Cyflog Byw i ddangos eich cefnogaeth a’ch ymrwymiad, a gwneud y drafodaeth ynghylch ennill digon i fyw arno hyd yn oed yn uwch!
Yn y newyddion neu ar bodlediadau: Os yw’ch sefydliad wedi cael gwahoddiad i ymddangos yn y wasg neu bodlediad, gallai fod yn gyfle perffaith i ledaenu’r neges am bwysigrwydd y Cyflog Byw . Rydyn ni hefyd yn derbyn ceisiadau gan y cyfryngau i siarad â Chyflogwyr Cyflog Byw yn uniongyrchol, er enghraifft hyn Darn BBC ar Gyflogwr Cyflog Byw Rosslyn Coffee . Os yw hyn yn rhywbeth y byddai gennych ddiddordeb mewn gwneud mwy ohono, cysylltwch â ni.
Mae’n wych siarad am achrediad a’i holl fuddion busnes ond mae hefyd yn bwysig siarad am yr angen am Gyflog Byw . Ar gyfer hyn, mae’n wych cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein hymchwil a deall pam mae angen i deuluoedd sy’n gweithio, ennill cyfradd sy’n talu costau byw a’r buddion cymdeithasol ac iechyd hefyd. Er enghraifft, mae 1 o bob 5 gweithiwr yng Nghaerdydd yn ennill llai na’r Cyflog Byw Go Iawn.
3. Gwnewch e’n gyffrous!
Cymerwch gip ar ein calendar digwyddiadau Wythnos Cyflog Byw a gweld a allech chi gynrychioli’ch sefydliad neu’ch diwydiant yn unrhyw un ohonyn nhw.
Sôn am ddiwydiannau – efallai edrychwch ar eich calendr digwyddiadau personol eich hun ac os ydych chi’n bwriadu mynychu neu gynnal unrhyw ddigwyddiadau diwydiant, gallai hwn fod yn gyfle perffaith i godi ymwybyddiaeth o’r Cyflog Byw gydag eraill yn y diwydiant a chynyddu archwaeth am achrediad.
Os ydych chi’n siarad mewn digwyddiad, efallai y gallai fod yn gyfle i siarad ar pam roedd y Cyflog Byw yn benderfyniad y gwnaethoch chi ei flaenoriaethu a gwahodd eraill i arwyddo lan. Mae gyda ni lawer o sefydliadau yng Nghymru sy’n barod ac yn gallu gwneud hyn a byddwn ni wrth ein bodd i ychwanegu mwy at y rhestr!
Yn yr un modd, efallai y bydd gennych stondin lle gallech arddangos logo neu daflenni Cyflog Byw i godi ymwybyddiaeth mewn digwyddiadau personol. Ar gyfer yr holl syniadau uchod, gallwch hefyd gysylltu â’r tîm Achredu yng Nghymru i weld a allwn siarad yn y digwyddiad neu fynychu’r digwyddiad.
4. Integreiddio’r Cyflog Byw Go Iawn mewn i gadwyni cyflenwi
Gyda’n cyflogwyr achrededig, rydyn ni’n eu hannog i ddefnyddio eu statws achrededig i ddylanwadu ar benderfyniadau o gwmpas y Cyflog Byw Go Iawn yn cael ei dalu cyn belled â phosib i lawr y gadwyn gyflenwi. Gall fod mor syml â’i ddefnyddio fel cymhelliant i ennill gwaith, neu, lle bynnag y bo modd, dim ond rhyngweithio â sefydliadau eraill sy’n talu Cyflog Byw Go Iawn a / neu sydd wedi’u hachredu.
Dywedodd Patrick Langmaid, perchennog Parc Gwyliau Bae Mother Iveys , Cyflogwr Cyflog Byw yng Nghernyw, wrth wneuthurwyr carafanau y byddai’n prynu oddi wrth y wneuthurwr cyntaf i gael ei achredu, penderfyniad a welodd Cartrefi Gwyliau ABI yn achredu gyda’r Living Wage Foundation, gan selio’r fargen â Pharc Gwyliau Mothers Ivy am 25 o garafanau gwerth £ 600,000 Yn aml, mae dod yn Gyflogwr Cyflog Byw yn benderfyniad y mae busnesau yn dweud sy’n talu amdano’i hun, ac mae hon yn enghraifft glir o hynny.
5. Edrych yn lleol!
Rydyn ni’n gwybod y gall gweithredu’n lleol arwain at newid go iawn. Mae’r fenter Lleoedd Cyflog Byw wedi golygu bod nifer o gyflogwyr mewn ardaloedd penodol ledled y DU wedi ffurfio grwpiau gweithredu lleol sydd wedi ymrwymo i gynyddu nifer y Cyflogwyr Cyflog Byw mewn ardal benodol.
Mae Caerdydd wedi cael ei gydnabod fel Dinas Cyflog Byw ac mae cynllun cymorth achredu ar gael gan Gyngor Caerdydd ar gyfer busnesau bach a chanolig sy’n edrych i achredu.
Rydyn ni hefyd wedi bod yn casglu’r astudiaethau achos Cymreig hyn fel rhan o’n dathliadau pen-blwydd yn 20 oed. Cymerwch gip ar beth mae achrediad yn ei olygu i gyflogwyr a gweithwyr ledled Cymru.
Cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o wybodaeth am ble mae gweithgaredd Lleoedd Cyflog Byw a sut y gallwch ddechrau rhywbeth yn eich ardal.
Yn yr un modd, gan ddefnyddio’r map ar-lein fe welwch y cyflogwyr lleol a chysylltu â nhw. Enghraifft wych o fusnes sydd wedi cymryd gwthio’r Cyflog Byw ymlaen yn eu hardal leol hyd yn oed cyn sefydlu Lleoedd Cyflog Byw yw Boo Consulting , sydd bob blwyddyn wedi cynnal sawl brecwast busnes yn Bolton, gan wahodd eu busnesau cyfagos i ddysgu am y Cyflog Byw.