Adeiladau Cyflog Byw

Adeiladau Cyflog Byw yw adeiladau sy’n gartref i nifer o denantiaid busnes, gyda phob un ohonynt yn talu’r Cyflog Byw gwirioneddol i’w cyflogai a’u contractwyr.

SbarcI spark Prifysgol Caerdydd, a achredwyd ym Mehefin 2021, yw adeilad Cyflog Byw cyntaf Cymru.

Bydd Sbarc|spark yn gartref i SPARK, y Parc Archwilio’r Gwyddorau Cymdeithasol, lle y bydd 440 o ymchwilwyr yn rhannu eu harbenigedd cyfunol i ddatrys heriau cymdeithasol, a Cardiffinnovations@sbarc, canolfan y Brifysgol ar gyfer cychwyn busnes, cwmnïau deillio a menter.

Adeilad sbarc | spark Prifysgol Caerdydd yw adeilad Cyflog Byw cyntaf Cymru.

Sbarc | spark

“Mae achrediad Sbarc | spark yn Adeilad Cyflog Byw yn enghraifft o’n huchelgais ymchwilio i fynd i’r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol. Mae’r Brifysgol eisoes yn gwneud ymchwil i’r Cyflog Byw. Er engrhaifft, mae Ysgol Fusnes Caerdydd wedi astudio cymhelliad sefydliadau i fod yn gyflogwyr Cyflog Byw, y ffordd y mae achredu wedi newid eu henw da a’u perthynas gydag eraill, a’r ffordd y mae wedi gwella’r broses recriwtio a chadw cyflogai”

Yr Athro Chris Taylor, CyfarwyddwrSPARK

PECYN CYMORTH: LLEODD CYFLOG BYW

Pecyn cymorth ynghylch taclo cyflog isel drwy weithredu’n lleol, fel bod ardaloedd eraill ar draws y DU yn gallu cychwyn ar eu teithiau Lleoedd Cyflog Byw.

Scroll to Top