Cyflog Byw i Gymru

Mae’r Cyflog Byw i Gymru yn ymdrech gydweithredol i hyrwyddo buddion achredu’r Cyflog Byw i gyflogwyr, gweithwyr a’r economi yng Nghymru.

Cynnal Cymru yw partner achrededig y Sefydliad Cyflog Byw yng Nghymru, ac yn cefnogi cyflogwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn y broses achredu.
Mae Cynnal Cymru yn defnyddio ei rwydweithiau o gyflogwyr, a’i ddealltwriaeth o’r ffordd y mae sefydliadau yn gweithio, i’w helpu i oresgyn rhwystrau at achredu. Mae Cynnal Cymru hefyd yn chwarae rȏl bwysig yn hyrwyddo’r Cyflog Byw i gyflogwyr.
Dinasyddion Cymru Wales oedd yn gyfrifol am gychwyn yr ymgyrch Cyflog Byw yng Nghymru, a sy’n arwain y strategaeth Cyflog Byw i Gymru. Fel cartref trefnu cymunedol yng Nghymru, mae ei aelodaeth amrywiol ar draws Cymru yn pennu nodau, adnabod targedau ymgyrchu ac yn hyfforddi arweinyddion a gweithwyr cymunedol i weithredu fel rhan o’r ymgyrch Cyflog Byw.
Mae gan staff y Sefydliad Cyflog Byw amser pwrpasol i gefnogi achredu a mentrau megis Lleoedd Cyflog Byw, a chyd-gysylltu marchnata a chyfathrebu o amgylch Wythnos Cyflog Byw.
‘Rydym hefyd yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, ac eiriolwyr cyflogaeth megis Cyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.
Mae Tîm Arwain y Cyflog Byw i Gymru yn cyd-gysylltu gweithgareddau y sefydliadau sy’n gweithio i wneud Cymru yn Economi Cyflog Byw.
Cynnal Cymru sy’n lletya gwefan Cyflog Byw i Gymru.







Cysylltiadau cyflym
Hwb Gwybodaeth
Hwb Gwybodaeth am achrediad Cyflog Byw a mentrau eraill Y Sefydliad Cyflog Byw cyfredol neu'n cael eu datblygu (e.e cyllidwyr, oriau, lleoedd, pensiynau)
Cyfeiriadur Cyflogwyr
**Yn dod cyn bo hir!**
Cronfa ddata chwiliadwy a map rhyngweithiol Cyflogwyr Cyflog Byw yng Nghymru er mwyn cysylltu cyflogwr a helpu pobl i chwilio am gyflogwyr Cyflog Byw yng Nghymru a'u lleoli.
Llyfgell
Llyfrgell o straeon cyflogwyr a gweithwyr o wahanol ddiwydiannau, sectorau a rhanbarthau yng Nghymru sydd yn rhan o'r rhwydwaith Cyflog Byw.
Lle Cydweithredol
Lle i goladu'r newyddion, ymchwil a digwyddiadau diweddaraf sy'n ymwneud â'r Cyflog Byw
Ein Tîm
Mae ein tîm yma i’ch helpu a’ch cefnogi drwy’r broses achredu, ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y Cyflog Byw gwirioneddol.
livingwage@cynnalcymru.com
Rydym yma i’ch helpu chi

Sarah Hopkins
Cyfarwyddwr, Arweinydd Rhaglen, Cymdeithas Deg a Chyfiawn
Ymunodd Sarah â thîm Cynnal Cymru yn Ionawr 2020, ac mae’n gyfrifol am reoli Cyflog Byw Cymru, codi incwm ac ymestyn ein gwaith ar draws sectorau, ar draws Cymru.
Mae Sarah yn angerddol ynghylch cyflogau byw – yn flaenorol roedd hi’n gweithio i H + M fel Rheolwr Cynaladwyedd ar gyfer Cambodia a Fietnam, yn cynllunio strategaeth gynaladwyedd ac yn cefnogi arweinyddion rhaglen er mwyn iddynt arwain gwelliant parhaus yn y cadwyni cyflenwi.
Siaradwch â Sarah am: y strategaeth Cyflog Byw i Gymru neu gydweithio ar waith Cyflog Byw

Fiona Humphreys
Swyddog Gweinyddol / Achredu
Mae Fiona yn dod ag ystod eang o brofiad, ac angerdd gydol oes am yr amgylchedd a lles anifeiliaid, i arwain ar y gwaith o achredu’r Cyflog Byw yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ymateb i ymholiadau dydd-i-ddydd, tyfu’n rhwydwaith o gyflogwyr, darparu cefnogaeth weinyddol i’r Tîm Arwain a Grŵp Llywio Caerdydd fel Dinas Cyflog Byw, a chefnogi prosiectau cyfathrebu.
Siaradwch â Fiona am: unrhyw ymholiadau ynghylch achredu neu gydweithio ar astudiaeth achos

Bethan Harvey
Swyddog Achredu

Yn flaenorol, roedd Bethan yn arwain y gwaith Achredu’r Cyflog Byw yng Nghymru, ond nawr mae ganddi ffocws mwy strategol, sef meithrin perthynas gyda chyflogwyr ar sail lle, gan ehangu’n rhwydwaith ar draws Cymru ac archwilio’r gwahanol ffyrdd o gyrraedd cyflogwyr.
Siaradwch â Bethan am: Ymholiadau sy’n seiliedig ar leoedd neu’r wasg, cyflwyno yn eich sefydliad/ digwyddiad

Mari Arthur
Ymgynghorydd

Cyn-Gyfarwyddwr Cynnal Cymru, mae Mari yn dal i gefnogi’n gwaith gyda’r Sefydliad Cyflog Byw, gan ddarparu cefnogaeth strategol i’r Tîm Arwain, Cyflog Byw i Gymru.
Siaradwch â Mari am: Caerdydd fel Dinas Cyflog Byw