Arweinyddiaeth yng Nghymru

Mae Cyflog Byw i Gymru yn ymdrech gydweithredol, gyda’r mudiadau canlynol yn chwarae rȏl allweddol:

Citizens Cymru Wales

Cynnal Cymru

Y Sefydliad Cyflog Byw

Cyngor Sir Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

Oxfam Cymru

Knox & Wells Ltd

Wales TUC Cymru

Afallen

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi’i ymrwymo at sicrhau bod pob gweithiwr yng Nghymru yn cael ei drin yn deg a gyda pharch. Gan arwain drwy esiampl, achredwyd Llywodraeth Cymru fel cyflogwr Cyflog Byw yn 2015, gan godi cyflogau dros 3000 o staff i’r Cyflog Byw.

Yn 2017, fel rhan o’r cynllun ehangach sef Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cȏd ymarfer, lansiwyd canllaw gweithredu’r Cyflog Byw yng nghadwyni cyflenwi y sector cyhoeddus ac yn 2018, wedi gorchymyn bod y Comisiwn Gwaith Teg yn gwneud argymhellion, a seilir ar dystiolaeth, i hyrwyddo ac annog gwaith teg yng Nghymru.

Ym Mai 2019 cyhoeddwyd adroddiad Comisiwn Gwaith Teg, a oedd yn datgan y dylai’r Cyflog Byw gwirioneddol gynnig ‘yr isafswm cyflog ar gyfer yr holl oriau gwaith’, fel rhan o ddiffinio ‘Gwobrwyo Teg’, elfen allweddol o Waith Teg.

Roedd yr Adroddiad hefyd wedi dod i’r casgliad y dylai cyrff y sector cyhoeddus gael eu gweld i fod yn gyflogwyr gwaith teg, bod gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn ganolog os am gyflenwi gwaith teg a bod ystod o argymhellion yn cael eu cynnig i hyrwyddo gwaith teg.

Mae’r argymhellion hynny yn cael eu gweithredu, gan gynnwys yr ymgynghoriad diweddar ynghylch y Bil Drafft Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ac ymrwymiad at sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru yn derbyn y Cyflog Byw gwirioneddol.

Achredwyd Llywodraeth Cymru fel cyflogwr Cyflog Byw yn 2015, gan godi cyflogau dros 3000 o staff i’r Cyflog Byw.

Er mwyn gwneud Cymru yn genedl Cyflog Byw, mae angen Grŵp Arweinyddiaeth arnom sy’n cynrychioli gwahanol ranbarthau a diwydiannau yng Nghymru.

Cysylltwch â ni livingwage@cynnalcymru.com os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Grŵp Arweinyddiaeth .

Grŵp llywio dinas Cyflog Byw

Cafodd Caerdydd ei chydnabod yn Ddinas Cyflog Byw fel rhan o’r cynllun ‘Making Living Wage Places’ Daeth grŵp o gyflogwyr blaenllaw Caerdydd at ei gilydd â ffurfio Grŵp Gweithredu Cyflog Byw Caerdydd, gan lansio eu cynllun gweithredu tair-blynedd i ddechrau’r ymgyrch ‘Gwneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw’.