Astudiaeth Achos: Circus Eruption

Sefydliad: Circus Eruption
Lleoliad: Abertawe
Dyddiad Achredu: 2 Chwefror 2021

Mae Circus Eruption wedi ei leoli yn Abertawe ac yn cynnal gweithdai syrcas integredig ar gyfer plant a phobl ifanc o bob gallu, sy’n tyfu mewn hyder, hunan-barch a gwytnwch yn ogystal â hwyl! Mae rhai ohonynt yn wynebu heriau fel datganiadau neu labeli anabledd, bod yn ffoaduriaid / ceiswyr lloches, bod yn ofalwyr ifanc, neu fod ar gyrion gofal neu wedi profi gofal.

Roedden nhw’n talu’r holl staff yn uwch na’r Cyflog Byw Gwirioneddol cyn iddynt ddewis achredu.

“Roedd yn gwneud synnwyr i achredu gan ystyried ein bod ni wastad wedi talu’n deg ac yn credu y dylai gweithwyr dderbyn gwobr deg a dylai costau byw fod yr isafswm absoliwt.”

Karen Chalk, Cydlynydd Prosiect

Mae Circus Eruption hefyd yn tyfu ac yn newid fel sefydliad; ac yn debygol o benodi yn y blynyddoedd nesaf felly roedden nhw am wneud yr hyn a oedd yn ymrwymiad anffurfiol yn swyddogol.

“Yn y trydydd sector, dylai gwerthfawrogi cyfraniadau pawb yn deg ddod yn naturiol. Mae’n bwysicach gwneud y peth iawn na gweiddi amdano, ond mae achredu yn arwydd o’ch ymrwymiad ac yn ddangosydd o fwriad eich sefydliad ac yn sicrhau bod eich dyfodol yn deg hefyd!”

Karen Chalk

Discover more

Scroll to Top