Beth yw’r Cyflog Byw Go iawn?

YR UNIG GYFRADD YN Y DU SY’N SEILIEDIG AR GOSTAU BYW
Y Cyflog Byw go iawn yw’r unig gyfradd yn y DU sy’n cael ei dalu’n wirfoddol gan dros 9,000 o fusnesau’r DU, sy’n credu bod eu staff yn haeddu derbyn cyflog sy’n cwrdd ag anghenion dydd-i-ddydd, megis y siopa wythnosol a chost dillad ac esgidiau.
Mae dros 9000 o gyflogwyr achrededig yn y DU, ac mae dros 400 o’r rheini yng Nghymru.


£10.90
Cyfradd y DU
17,145
Gweithwyr
Pwy sy’n elwa?
O ganlyniad i’r ymgyrch Cyflog Byw, mae 17,153 o gyflogai yng Nghymru wedi derbyn codiad cyflog ac mae gennym gefnogaeth traws-bleidiol. Mae ystod eang o gyflogwyr wedi’u hachredu gan y Sefydliad, gan gynnwys sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, holl Brifysgolion Cymru, Dŵr Cymru, Redrow, Canolfan Mileniwm Cymru a Thrafnidiaeth Cymru. Yn ychwanegol, mae cannoedd o BBaCh wedi’u hachredu fel rhan o’n casgliad o gyflogwyr sydd wedi’u hymrwymo at dalu’r Cyflog Byw Go Iawn.
Ym mha ffordd y cyfrifir hyn?
- Mae’r gyfradd yn cael ei ail-chyfrifo yn flynyddol i adlewyrchu costau byw gwirioneddol, ac yn cael ei gyhoeddi bob mis Tachwedd.
- Dylai cyflogwyr weithredu’r codiad cflog cyn gynted ag y bo modd, ac o fewn 6 mis.
- Dylai’r holl gyflogai dderbyn y gyfradd newydd erbyn y Mai canlynol.
Yn 2022 cyhoeddwyd y gyfradd newydd ar Medi 22ain. Felly dylai cyflogwyr achrededig dalu’r gyfradd newydd, sef £10.90, erbyn Mai 14fed, 2023.

Mae sefydliadau sy'n talu'r Cyflog Byw wedi nodi gwelliannau sylweddol yn ansawdd gwaith, gostyngiadau yn absenoldeb a throsiant staff, ac enw da corfforaethol cryfach.
Esbonio cyfraddau cyflog y DU
Y Cyflog Byw Go Iawn yw’r unig gyfradd yn y DU sydd wedi gyfrifo yn ȏl cost byw, a sy’n cynnwys unrhyw un dros 18 oed.
Isafswm Cyflog
Isafwm y Llywodraeth i’r rhai o dan 23 oed
£8.36
- Statudol
- Grŵp oedran: 21 ac hŷn
- Setliad a negodwyd yn seiliedig ar argymhellion gan fusnesau ac undebau llafur.
- Dim pwysoliad Llundain
Cyflog Byw Cenedlaethol
Isafswm y Llywodraeth i’r rhai dros 23 oed
£9.50
- Statudol
- 23 ac hŷn
- % o’r enillion canolog, yn anelu at gyrraedd 66% o enillion canolrifol erbyn 2024
- Dim pwysoliad Llundain
Y Cyflog Byw Go Iawn
Yr unig gyfradd cyflog sy’n seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar bobl i fyw
£10.90ar draws y DU
£11.95 yn Llundain
- Gwirfoddol
- 18 ac hŷn
- Cyfrifir yn ȏl costau byw, yn seiliedig ar fasged o nwyddau a gwasanaethau aelwyd
Oes. Mae cyfradd uwch ar wahan ar gyfer Llundain - Mae cyfradd uwch ar wahan ar gyfer Llundain