Gwneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw

Cafodd Caerdydd ei chydnabod yn Ddinas Cyflog Byw fel rhan o’r cynllun ‘Creu Lleoedd Cyflog Byw’. Daeth grŵp o gyflogwyr blaenllaw Caerdydd at ei gilydd â ffurfio Grŵp Gweithredu Cyflog Byw Caerdydd, gan lansio eu cynllun gweithredu tair-blynedd i ddechrau’r ymgyrch ‘Gwneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw’.

194
Cyflogwyr

Ystadegau Cyfredol

Nifer a gyflogir gan gyflogwyr Cyflog Byw

68,015

Nifer o weithwyr sydd wedi’u codi i’r Cyflog Byw

10,865

Mae dros 10,500 o weithwyr yng Nghaerdydd wedi derbyn codiad cyflog i’r Cyflog Byw gwirioneddol o ganlyniad i gyflogwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd yn achredu.

Ar hyn o bryd, mae 194 cyflogwr Cyflog Byw Caerdydd wedi ymaelodi â’r cynllun ac mae’r grŵp ar ei ffordd i ragori ar eu cynllun weithredu tair-blynedd cychwynnol.

Mae Gwneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw yn ymdrech gydweithredol. Mae’r Grŵp Llywio sy’n goruchwylio cynnydd y cynllun gweithredu yn cynnwys cynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd, C3SC, Undeb Gredyd Caerdydd a’r Fro, Capital Law, Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a’r TUC

Cynllun gweithredu

Roedd ei’n Cynllun Gweithedu’r Cyflog Byw diwethaf yn cynnwys:

  • Cynyddu’r nifer o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig i 150 erbyn 2022.
  • Cynyddu’r nifer o bobl sy’n gweithio i gyflogwyr Cyflog Byw achrededig i 48,000 erbyn 2022.
  • Annog prif gyflogwyr, cyflogwyr eiconig a sefydliadau ‘angor’ yng Nghaerdydd i fod yn gyflogwyr achrededig Cyflog Byw.
  • Cefnogi cyflogwyr bychan i achredu drwy Gynllun Cefnogi Achredu’r Cyflog Byw y Cyngor.

Dylanwad ar draws Caerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi amcangyfrif bod £ 32m ychwanegol wedi’i dalu i weithwyr yng Nghaerdydd o ganlyniad i achrediadau Cyflog Byw gan gyflogwyr o Gaerdydd .

32M
Cyflogau Ychwanegol

Dysgwch mwy am alw am achrediad Cyflog Byw yng Nghaerdydd, rhesymau cyflogwyr am achredu, effaith y Cyflog Byw ar weithwyr a’r daith i wneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw yn y fideo hwn a ffilmiwyd ym mis Hydref 2020.

I’r gad

Os ‘rydych yn fudiad sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd ond heb achredu hyd yn hyn, ac am wneud hynny, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda; ‘rydym wrth law i’ch arwain drwy’r camau sy’n arwain at achredu.

E-bost: livingwage@cynnalcymru.com

Am wybodaeth bellach ynghylch y Cyflog Byw yng Nghaerdydd, a manylion Cynllun Cynnal Achredu Cyflog Byw y Cyngor ewch i www.cardiff.gov.uk/livingwage os gwelwch yn dda.

Grŵp Caerdydd Linkedin

Os ‘rydych yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig yng Nghaerdydd gallwch hefyd ymuno â’r grŵp LinkedIn er mwyn adeiladu cymuned o gyflogwyr cyflog teg yn y ddinas.

Pecyn Cymorth Awdurdodau Lleol

Os ‘rydych yn Awdurdod Lleol yng Nghymru sy’n ymddiddori yn achredu, mae gwybodaeth bellach ar gael yn y Pecyn Cymorth i Awdurdodau Lleol: Cyflog Byw.

Byddwch
yn Gyflogwr
Cyflog Byw