Cyflog Byw yng Nghymru

Hanes y Cyflog Byw

Deilliodd y Cyflog Byw o syniad syml – bod ar deuluoedd sy’n gweithio angen, a’u bod yn haeddu, derbyn cyflog sy’n diwallu cost byw ac yn cwrdd ag anghenion bob dydd. Ugain mlynedd yn ȏl, yn Nwyrain Llundain, roedd llawer o weithwyr wedi darganod taw nid dyna’r gwirionedd.

Dechreuodd y mudiad Cyflog Byw mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Nwyrain Llundain yn 2001, pan ddaeth mudiadau ffydd, ysgolion, undebau llafur a sefydliadau lleol eraill at ei gilydd, o dan nawdd Citizens UK, i drafod materion a oedd y effeithio ar eu cymunedau. Codwyd un mater dro ar ȏl tro – cyflogau isel.

Yn 2011 aeth y mudiad yn genedlaethol. Lansiwyd cyfradd gyntaf Cyflog Byw y DU a ffurfiwyd y Sefydliad Cyflog Byw er mwyn cydnabod a dathlu’r busnesau a oedd yn dewis talu mwy nag isafswm y llywodraeth.

Darllenwch fwy am hanes a datblygiad y Cyflog Byw yn y DU ar wefan y Sefydliad Cyflog Byw.

Y Cyflog Byw yng Nghymru

Dewisodd y cyflogwyr cyntaf yng Nghymru achredu yn 2012, a dechreuodd yr ymgyrch Cyflog Byw ar yr adeg honno, fel rhan o sefydlu Citizens Cymru Wales, cartref cenedlaethol trefnu cymunedol. Gwnaeth yr ymgyrch gynnydd cyflym, gan ffocysu ar gyflogwyr mawr a leolir yn y brif ddinas, megis Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

Tra roedd cefnogaeth gynyddol i’r ymgyrch Cyflog Byw yng Nghymru, a miloedd o weithwyr wedi derbyn codiad cyflog, roedd llai na chant o gyflogwyr achrededig Cyflog Byw yn bodoli, ac roedd un o bod pump o weithwyr Cymru yn dal i wynebu tlodi mewn gwaith. Felly, yn 2016, roedd Dinasyddion Cymru Wales wedi datgan ei uchelgais i wneud Cymru yn ‘Economi Cyflog Byw’, yn seiliedig ar ymrwymiad â’r fethodoleg, y gyfradd a’r cynllun achredu a reolir gan y Sefydliad Cyflog Byw, hyrwyddo brand newydd ‘Cyflog Byw i Gymru / Living Wage for Wales’, a chyrraedd cyfartaledd â’r Alban o ran y nifer o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig.

Er mwyn cefnogi’r uchelgais hwn wnaeth Citizens Cymru cyflwyno tri datblygiad newydd:

1

Gofyn i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’i ddylanwad i annog achrediadau Cyflog Byw

2

Sefydlu Tîm Arwain Cyflog Byw i Gymru i ddatblygu strategaeth gydweithredol, a chyd-gysylltu’r nifer cynyddol o fudiadau a oedd wedi ymuno â’r ymgyrch;

3

Annog y Sefydliad Cyflog Byw i benodi Partner Achredu’r Cyflog Byw wedi’i leoli yng Nghymru i hybu’r gefnogaeth i’r cyflogwyr hynny a oedd yn dangos diddordeb mewn achredu

Ers mis Mai 2016, mae Citizens Cymru wedi cwrdd â Phrif Weinidog Cymru yn flynyddol i adolygu’r cynnydd ynghylch datblygu achredu’r Cyflog Byw yng Nghymru – mae hyn wedi arwain at gynyddu’r nifer o achrediadau yn y sector cyhoeddus, yn fwyaf penodol, ymhob prifysgol yng Nghymru. Mae’r Prif Weinidog yn cyhoeddi cyfradd newydd y Cyflog Byw yng Nghymru yn ystod Wythnos Cyflog Byw, a gynhelir bob mis Tachwedd.

Ers Tachwedd 2016, Cynnal Cymru – Sustain Wales yw partner achredu swyddogol y Sefydliad Cyflog Byw yng Nghymru, ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn yn cefnogi cyflogwyr i achredu, a chodi’r nifer o achrediadau i dros 550.

Yn y cyfamser, mae Tîm Arwain y Cyflog Byw yng Nghymru wedi bod yn cyfarfod yn chwarterol, ac wedi cydweithredu yn y gwaith o gynllunio’r Wythnos Cyflog Byw yn flynyddol ym mis Tachwedd, yn ogystal â gweithredu ymyriadau strategol sy’n gysylltiedig â’r sector gofal cymdeithasol a’r agenda Gwaith Teg.

Cerrig Milltir Allweddol Yng Nghymru

2012 - Cyflogwr Cyflog Byw achrededig cyntaf yng Nghymru

2013

Citizens Cymru yn lansio’r ymgyrch Cyflog Byw.

2016

Citizens Cymru yn datgan ei uchelgais i wneud Cymru ‘n economi Cyflog Byw

Cynnal Cymru – Sustain Wales yw’r corff achredu swyddogol ar gyfer y Cyflog Byw gwirioneddol yng Nghymru

2017

Erbyn hyn mae 6,000 o weithwyr yng Nghymru yn elwa ar y Cyflog Byw Gwirioneddol, gan ddodi £15 miliwn ychwanegol ym mhocedi cefn gweithwyr cyflog-isel.

Erbyn hyn mae 6,000 o weithwyr yng Nghymru yn elwa ar y Cyflog Byw Gwirioneddol

2019

Caerdydd yw’r ardal drefol fawr gyntaf yn y DU i dderbyn statws Dinas Cyflog Byw

Y Comisiwn Gwaith Teg yn cyhoeddi’r adroddiad ‘Gwaith Teg yng Nghymru’, gan danlinellu bod y Cyflog Byw gwirioneddol yn elfen allweddol o ddiffinio Gwaith Teg.

2020

Achredu holl brifysgolion Cymru yn gyflogwyr Cyflog Byw; Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i achredu.

2021

Canolfan Mileniwm Cymru yw 300fed cyflogwr Cyflog Byw yng Nghymru, yn cyfranu at godi cyflogau 11,750 o gyflogai yng Nghymru.

Citizens Cymru yn cyhoeddi ail rhan ei uchelgais i wneud Cymru yn economi Cyflog Byw, gan ganolbwyntio ar lywodraeth leol, byrddau iechyd a’r sector gofal cymdeithasol.

300fed Cyflogwr Cyflog Byw, gan gyfrannu at godiad cyflog i 11,750 o weithwyr

2022 - Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dod yn yr ail Awdurdod Lleol i achredu yng Nghymru

2023

Urdd Gobaith Cymru yn dod yn 500fed Cyflogwr Cyflog Byw yng Nghymru.

Mae Caerdydd yn Dinas Cyflog Byw yn cyrraedd 200 o achrediadau.

2023

Rhondda Cynon Taf yw’r trydydd Awdurdod Lleol i’w achredu.

Wild Thing cafe delivering food during lockdown

Cymru mwy cyfartal

Mae’r ymgyrch dros Gyflog Byw wedi dangos grym gweithwyr a chymunedau yn cyd-drefnu i godi eu lleisiau. Mae’n dangos effeitholrwydd y gymdeithas sifil yn cydweithio gyda busnes. Wrth i ni adennill tir wedi COVID-19 a phontio at economi carbon isel, mae gennym gyfle i greu Cymru mwy cydradd, lle y mae pob gweithiwr yn derbyn Cyflog Byw, a swyddi teg yw’r norm.

Scroll to Top