Cafodd Caerdydd ei chydnabod yn Ddinas Cyflog Byw fel rhan o’r cynllun ‘Creu Lleoedd Cyflog Byw’. Daeth grŵp o gyflogwyr blaenllaw Caerdydd at ei gilydd â ffurfio Grŵp Gweithredu Cyflog Byw Caerdydd, gan lansio eu cynllun gweithredu tair-blynedd i ddechrau’r ymgyrch ‘Gwneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw’.
Er mwyn dathlu’r siwrnai hon, ar yr 16eg o Dachwedd byddwn yn cymryd drosodd cyfryngau cymdeithasol Cyflog Byw i Gymru, lle byddwn yn rhannu straeon gan gyflogwyr Caerdydd yn ogystal â’r cynnydd diweddaraf tuag at ein nodau 2022.
Bydd y Cynghorydd Chris Weaver o Gyngor Caerdydd yn agor y diwrnod gyda neges fideo, a byddai’n wych pe gallech chi rannu cynnwys a chymryd rhan hefyd!
Os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch fideo neu ddyfyniad y byddech chi’n hapus inni ei ddefnyddio cyn y 12fed o Dachwedd.
Os ydych eisoes wedi cyflwyno unrhyw gynnwys ar gyfer ein hastudiaethau achos 20 mlynedd, byddwn yn ei hail-rannu hefyd.
Peidiwch ag anghofio rhannu / ymateb i’n postiadau ac os ydych chi’n creu eich hun, defnyddiwch yr hashnodau #CaerdyddCyflogByw a #WythnosCyflogByw a thagiwch @LivingWageWales felly gallwn eu gweld!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni a gwneud yn siŵr eich bod yn anfon fideos neu ddyfyniadau dros cyn y 12fed o Dachwedd.