Yn ystod y mis diwethaf, mae Cynnal Cymru wedi croesawu dau weithiwr newydd i gefnogi ein rhaglen waith gynyddol. Mae ein tîm o 12 o arbenigwyr cynaliadwyedd yn gweithio i gefnogi sefydliadau ar draws tri maes rhaglen craidd: (i) economi carbon isel, (ii) yr amgylchedd naturiol a (iii) cymdeithas deg a chyfiawn.
I symud ymlaen yr Cyflog Byw go iawn yng Nghymru a chefnogi agenda gwaith teg Llywodraeth Cymru, rydym yn croesawu Grace Robinson fel Swyddog y Rhaglen Cyflog Byw ac Alys Reid i gefnogi’r achrediadau. Bydd Alys hefyd yn cefnogi tîm Cynnal Cymru yn ei rôl fel Swyddog Adnoddau Dynol a Gweinyddol.
Grace Robinson
Grace yw Swyddog y Rhaglen Cyflog Byw newydd. Cafodd ei geni yng Nghaerdydd ac mae wedi byw yma y rhan fwyaf o’i hoes – yr unig eithriad yw gradd israddedig yn Abertawe. Mae ganddi gefndir mewn adnoddau dynol ac mae bob amser wedi bod yn angerddol am gydraddoldeb, cyfiawnder ac arferion gwaith teg. Yn flaenorol, bu Grace yn gweithio ar y Rhaglen Cyflog Byw yn ystod ei gradd meistr mewn AD, a dyna a’i gwnaeth yn frwdfrydig am y fenter benodol hon. Mae’n edrych ymlaen at weithio i Cynnal Cymru ac eiriol dros y Cyflog Byw ledled Cymru.
Yn ei hamser hamdden, mae Grace yn mwynhau bod mor greadigol â phosibl ac mae ganddi brosiect ar y gweill bob amser (blanced babi ar gyfer ffrind sy’n disgwyl). Mae hi hefyd yn mwynhau bod yn actif a mynd am nofio môr pan fo’n gallu.
Alys Reid Bacon
Mae Alys yn ymuno â ni fel Swyddog Adnoddau Dynol a Gweinyddol i ddarparu cymorth ar y broses achredu Cyflog Byw ac adnoddau dynol Cynnal Cymru. Mae Alys yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei PhD yn y Gwyddorau Biolegol, o’r enw, “Dylanwad genoteip, ffactorau amgylcheddol a rheoli ar ddatblygiad cnwd, llenwi grawn ac ansawdd grawn mewn ceirch”.
Mae ganddi brofiad o ddelio ag aelodau o’r cyhoedd mewn gwahanol amgylcheddau, gan gynnwys fel derbynnydd ysbyty, cynorthwyydd gweinyddol a Chlerc Ward ac fel Gweithiwr Ieuenctid. Mae hi hefyd wedi bod yn ymwneud â gwaith i hyrwyddo pynciau STEM mewn ysgolion ar draws canolbarth Cymru a ariennir gan sefydliad cemeg Salters.
Mae Alys yn angerddol am gynaliadwyedd ac yn mwynhau treulio ei hamser rhydd yn cerdded, nofio yn y môr, coginio, bwyta a chwarae gemau.