Darparwyr Gwasanaeth Cydnabyddedig
Mae Darparwyr Gwasanaeth Cydnabyddedig wedi gweld y buddion sy’n dod yn sgil talu’r Cyflog Byw, ac am weld y Cyflog Byw mewn mwy o gontractau eu cwsmeriaid.
Mae Darparwyr Gwasanaeth Cydnabyddedig wedi’u hymrwymo at dalu Cyflog Byw i’w holl staff yn y pencadlys, yn unol â’r cytundeb Cyflogwr Cyflog Byw.
Maen nhw hefyd wedi’u hymrwymo at gynnig, i’w holl ddarpar gleientiaid a chleintiaid presennol, bid Cyflog Byw ochr-yn-ochr â phob cynnig cyfradd y farchnad. Mae hyn yn golygu bod wastad gan y cleient y dewis i weithredu’r Cyflog Byw pan yn cyflwyno cynnig, a bod llwybr tuag at y Cyflog Byw ar gael i’r darparwr.
Mae ein gweithwyr yn teimlo’r buddion o ennill cyflog byw gwirioneddol, mae’n hwb moesol go iawn o fewn ein timau. Dyma'r peth iawn i'w wneud yn foesol ac o safbwynt busnes.
Supacleen
Mae Supacleen Cyf yn cynnig gwasanaethau glanhau masnachol a domestig ac mae wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Daeth Supacleen yn achrededig yn 2019.
“Fe wnaethon ni ddewis i ddod yn gyflogwr cyflog byw gan ein bod ni’n foesegol gwybod dyna’r peth iawn i’w wneud yn foesegol. Fe wnaethon ni hefyd ddarganfod bod llawer o fusnesau eraill yn chwilio am gyflogwyr cyflog byw eraill sy’n rhoi’r fantais i ni dros ein cystadleuaeth, rydyn ni’n aml yn ennill cleientiaid oherwydd ein hachrediad. Mae ein gweithwyr yn teimlo’r buddion ennill cyflog byw gwirioneddol, mae’n hwb moesol go iawn yn ein timau. Dyma’r peth iawn i’w wneud yn foesol ac o safbwynt busnes. Mae gwobrwyo’ch staff yn allweddol i fusnes llwyddiannus”.”
Ceri Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau , Supacleen Cyf