Mae’r hyn a ddechreuodd fel pobl gyffredin yn dod at ei gilydd i fynnu cyflog teg wedi tyfu i fod yn un o ymgyrchoedd cymdeithas sifil mwyaf llwyddiannus yr 21ain ganrif.
Heddiw, mae 4.4 miliwn o swyddi’n cael llai o dâl na’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mewn ymchwil dan arweiniad Ysgol Busnes Caerdydd, mae’r Mudiad Cyflog Byw yn ymchwilio i’r effeithiau canlyniadol pe bai hanner y swyddi hynny’n cael codiad cyflog i’r Cyflog Byw gwirioneddol.
Eisoes, mae bron i hanner miliwn o bobl mewn gwaith yn cael Cyflog Byw gwirioneddol oherwydd bod eu cyflogwr wedi ymuno â’r ymgyrch Cyflog Byw, gyda dros £4 biliwn yn cael ei roi’n ôl ym mhocedi gweithwyr o ganlyniad. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar effeithiau economaidd ehangach talu cyflog teilwng i fwy o bobl.
Ledled y DU, pe bai hanner y swyddi ar gyflogau isel yn cael codiad cyflog i’r Cyflog Byw gwirioneddol, gallai cyfanswm y difidend economaidd fod dros £1.6 biliwn yn 2026. Byddai pob ardal yn y DU yn elwa, gyda rhai ardaloedd – y rhai sydd â chyfran uwch o swyddi sy’n talu’n wael heddiw, a’r rhai yn Llundain lle mae Cyflog Byw Llundain yn darparu codiad cyflog mwy – yn gweld yr effeithiau mwyaf.
Yng Nghymru, rydyn ni wedi bod yn hyrwyddo’r Cyflog Byw ers bron i 10 mlynedd ac erbyn hyn mae dros 630 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig ledled y wlad sydd i gyd yn rhan o fudiad pwerus a llwyddiannus sy’n sicrhau bod gweithwyr yn ennill digon i dalu costau byw. Mae pob cyflogwr achrededig yn cyfrannu at y genhadaeth hon, boed hynny drwy gynyddu cyflogau, hyrwyddo’r Cyflog Byw gwirioneddol yn gyhoeddus neu arwain drwy esiampl ac ysbrydoli eraill drwy eu hachrediad.
Mae’r adroddiad hwn yn myfyrio ar 25 mlynedd o gynnydd. Mae’n cynnwys tystiolaeth gan gyflogwyr a gweithwyr, cerrig milltir pwysig ac ystadegau. Mae hefyd yn edrych tua’r dyfodol ac yn rhannu gobeithion a syniadau ar gyfer ehangu byd gwaith da a chreu cymdeithas lle nad oes neb yn wynebu tlodi mewn gwaith na thlodi ar ôl gwaith.
Ymunwch â ni i ddathlu 25 mlynedd o gynnydd a darllen yr adroddiad.
