Ein Tîm

Rydyn ni yma
i'ch helpu chi

Mae ein tîm yma i'ch helpu a'ch cefnogi drwy'r broses achredu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y Cyflog Byw go iawn.

livingwage@cynnalcymru.com

+44 (0)2294 0814

Harry Thompson

Uwch Arweinydd Rhaglen a Pholisi: Gwaith Teg a'r Economi

Mae Harry yn Uwch Arweinydd Rhaglen a Pholisi: Gwaith Teg a’r Economi ac mae’n rheoli’r tîm Gwaith Teg a Chyflog Byw, sy’n gweithio tuag at nod strategol Cynnal Cymru o gymdeithas deg a chyfiawn.

Cyn hynny bu’n gweithio fel Arweinydd Polisi Economaidd yn y Sefydliad Materion Cymreig, arwain prosiectau ar bynciau fel grymuso undebau llafur, fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru, a grymuso cymunedau. Cyn hynny bu’n gweithio i’r cwmni materion cyhoeddus Deryn Consulting ac mewn ymgyrchoedd gwleidyddol ac ymchwil yn y Senedd, San Steffan, ac ar lefel awdurdodau lleol.

Siaradwch â Harry am: Gwaith teg a siarad gwadd.

Grace Robinson

Swyddog Rhaglen Cyflog Byw

Grace yw Swyddog Rhaglen Cyflog Byw, yn darparu cyngor a chefnogaeth i dyfu ein rhwydwaith cyflogwyr.

Cafodd ei geni yng Nghaerdydd ac mae wedi byw yma y rhan fwyaf o’i hoes – yr unig eithriad yw gradd israddedig yn Abertawe.

Mae ganddi gefndir mewn adnoddau dynol ac mae hi wastad wedi bod yn angerddol am gydraddoldeb, cyfiawnder ac arferion gwaith teg.

Bu Grace yn gweithio ar y Rhaglen Cyflog Byw yn flaenorol yn ystod ei gradd meistr mewn AD, a dyna a’i gwnaeth yn frwd dros y fenter arbennig hon.

Siaradwch â Grace am: Pob peth Cyflog Byw.

Karen Misbah

Cydlynydd Prosiectau Gwaith Byw

Karen yw’r Cydlynydd Prosiectau Gwaith Byw, yn gweithio ar fentrau Gwaith Byw fel Lleoedd Cyflog Byw, Oriau Byw, a Phensiynau Byw.

Mae Karen yn dod ag amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth o weithio mewn tîm Ymchwil a Datblygu yn Panasonic ac o’i chyfnod fel Swyddog Iechyd a Lles yng Nghyngor Caerdydd.

Mae’n credu’n gryf mewn cydraddoldeb i bawb, a thrwy ei rôl yn Cynnal Cymru mae’n gobeithio gwneud gwahaniaeth.

Siaradwch â Karen am: Lleoedd Cyflog Byw, Oriau Byw, Pensiynau Byw.

Alys Reid Bacon

Swyddog Achredu a Chymorth

logo-cymraeg2

Mae Alys yn darparu cefnogaeth ar y broses achredu Cyflog Byw a chyfathrebiadau.

Mae Alys yn frwd dros gynaliadwyedd ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei PhD mewn Gwyddorau Biolegol, o’r enw, “Dylanwad genoteip, ffactorau amgylcheddol a rheoli ar ddatblygu cnwd, llenwi grawn ac ansawdd grawn mewn ceirch”.

Siaradwch ag Alys am: Achrediad Cyflog Byw a hyrwyddo a dathlu eich sefydliad.

Scroll to Top