Oriau Byw
DARPARU DDIOGELWCH OCHR YN OCHR A CYFLOG BYW
Mae’r ymgyrch dros Gyflog Byw go iawn wedi sicrhau bod cannoedd o filoedd o weithwyr yn ennill cyflog y gallant fyw arno, nid lleiafswm y llywodraeth yn unig. Ond mae miliynau o weithwyr cyflog isel hefyd yn ei chael hi’n anodd cael yr oriau sydd eu hangen arnyn nhw i gael dau ben llinyn ynghyd.
Yr ateb: Oriau Byw ochr yn ochr â Chyflog Byw go iawn
Mae’r rhaglen Oriau Byw yn adeiladu ar yr achrediad Cyflog Byw presennol. Mae cyflogwyr sy’n ymuno â’r cynllun yn ymrwymo i ddarparu:
O leiaf 4 wythnos o rybudd ar gyfer pob sifft
Gyda thaliad gwarantedig os caiff shifftiau eu canslo o fewn y cyfnod rhybudd hwn.
Lleiafswm gwarantedig o 16 awr gwaith bob wythnos
Oni bai bod y gweithiwr yn gofyn fel arall.
Contract sy’n adlewyrchu yn gywir yr oriau a weithiwyd
Achrediad oriau byw cyntaf Cymru
“Rydym yn falch o fod yn un o’r cwmnïau Cymreig cyntaf i ennill achrediad Oriau Byw. Rydym yn gyffrous i fod yn paratoi’r ffordd i gwmnïau Cymreig eraill wneud yr un peth a sicrhau eu bod yn talu staff yn deg, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn.”
Sarah Maher | Arweinydd Profiad Gweithwyr, Wealthify
