Gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth torfol mawr

Bydd hyd yn oed cymryd camau bach tuag at fod yn gyflogwr achrededig Cyflog Byw yn gwneud gwahaniaeth torfol mawr i’r 24,000 o bobl yng Nghaerdydd yr amcangyfrifir nad ydynt yn derbyn cyflog sy’n ddigonol i dalu eu costau byw.

Efallai y byddai’r ‘pethau bychain’ yn cynnwys dysgu mwy am y Cyflog Byw go iawn yng Nghymru, darllen y newyddion diweddaraf ynghylch ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr gofal, darllen am yr hyn mae’n golygu i gyflogwyr a gweithwyr, cofrestru diddordeb mewn achredu neu ddeall y gefnogaeth sydd ar gael gan Gyngor Caerdydd.

Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, yw Cadeirydd Grŵp Llywio Dinas Cyflog Byw; dyma sydd ganddo i’w ddweud:

“Heddiw hoffwn godi ymwybydiaeth o’r Cyflog Byw go iawn, a’r gwahaniaeth y mae wedi gwneud i fywyd miloedd o bobl ar draws y ddinas. Yr ydym yn gofyn i chi’r cyflogwyr ystyried y camau y gallwch eu cymryd i wneud Caerdydd yn ddinas Cyflog Byw go iawn. Er enghraifft; cofrestwrch eich diddordeb, siaradwch â’ch cyflogwr, ceisiwch ddeall mwy am y /em>gwahaniaeth rhwng y Cyflog Byw go iawn a’r cyflog byw cenedlaethol, neu ddarllenwch rhai o’n hastudiaethau achos”.

Gwneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw

In 2019, Cardiff became the first Capital City in the UK to be recognised as a Living Wage City. Led by Cardiff Council, Citizens Cymru, Cardiff University and other Living Wage Champions, three-year targets were set with the aim of increasing the number of workers uplifted to a real Living Wage to over 6,500 (from a baseline of 4,500).

Diolch i gefnogaeth cyflogwyr ar draws y ddinas, cyrhaeddwyd y targedau cychwynnol yn Nhachwedd 2021.Tra bod y mudiad Cyflog Byw wedi parhau i dyfu ledled Cymru, mae’r ffocws ar Ddinas Cyflog Byw yn golygu bod cyflogwyr Caerdydd yn cynrychioli 43% o’r holl achrediadau Cyflog Byw yng Nghymru.

Er gwaetha’r cynnydd hwn, mae 13% o boblogaeth Caerdydd yn byw mewn tlodi a nid yw 24,000 o bobl (11.6% o’r holl swyddi) yn derbyn Cyflog Byw go iawn.

Wrth i gostau bwyd ac ynni dal i gynyddu, dylai pobl Caerdydd fod yn gallu byw, yn hytrach na dim ond goroesi. Dyna paham mae’r tîm sydd wrth gefn yr ymgyrch Gwneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw wedi gosod targedau tair-blynedd newydd yn eu lle i sicrhau bod y nifer o bobl sy’n derbyn cyflog uwch yn codi i o leiaf 11,000 erbyn Ebrill 2024 (o gyfanswm o 7,949 ar ddiwedd Rhagfyr 2021).

Ym mis Tachwedd 2021 dyma oedd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, i’w ddweud wrth gefnogi’r Cyflog Byw:

‘Ein huchelgais yw gweld yr holl oriau gwaith yng Nghymru yn cael eu codi i’r Cyflog Byw go iawn’

What little things can you do this St David’s Day – Gwnewch y pethau bychain ar Ddydd Gŵyl Dewi

See the Cardiff St David’s Day Living Wage film:

Nodiadau i olygyddion:

Cynnal Cymru is the Living Wage Foundation’s accreditation partner in Wales. It supports organisations from across Wales with the process of accreditation and works to promote the real Living Wage and communicate benefits for employers and employees.

[1] Mae Gwneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw go iawn yn cael ei gydlynu gan Grŵp Llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Caerdydd, Citizens Cymru, Cynnal Cymru (partner achredu’r Cyflog Byw yng Nghymru), Prifysgol Caerdydd, C3SC, Capital Law a TUC Cymru.

[2] Yn wahanol iawn i isafswm cyflog Llywodraeth y DU (‘Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer y rhai dros 23 oed – £8.91, yn codi i £9.50 yn Ebrill 2022), y Cyflog Byw go iawn yw’r unig gyfradd cyflog sy’n cael ei gyfrifo’n annibynnol, ac a seilir ar gostau byw cynyddol – yn cynnwys tanwydd, ynni, rhent a bwyd. Byddai gweithiwr llawn-amser yn ennill y Cyflog Byw go iawn yn ennill £1,930 y flwyddyn yn fwy na gweithiwr sy’n derbyn isafswm cyfredol y llywodraeth (NLW). I weithiwr cyfredol, ac yn seiliedig ar wariant cyfartalog aelwydydd y DU, mae hynny’n cyfateb i 7 mis o filiau bwyd, a mwy na 5 mis o rent. Hyd yn oed pan ystyrir y gyfradd isafswm cyflog cenedlaethol uwch a delir ym mis Ebrill, byddai gweithiwr llawn-amser sy’n derbyn y Cyflog Byw go iawn yn dal yn ennill £780 yn fwy.

Beth yw’r Cyflog Byw go iawn?

Mae’r Cyflog Byw go iawn yn gyfradd cyflog yr awr sy’n cael ei gyfrifo’n annibynnol a’i ddiweddaru’n flynyddol (nid Cyflog Byw Cenedlaethol llywodraeth y DU mohono). Mae’n cael ei gyfrifo yn ȏl costau byw sylfaenol y DU, ac mae cyflogwyr yn dewis, yn wirfoddol, talu’r Cyflog Byw. Yn ȏl y Sefydliad Cyflog Byw, ers 2011 mae’r ymgyrch wedi effeithio ar dros 300,000 o weithwyr ac wedi dodi dros £1.6 biliwn yn ychwanegol ym mhocedi rhai o’r gweithwyr sy’n derbyn y cyflogau isaf yn y DU.

Ynghylch y Sefydliad Cyflog Byw

Y Sefydliad Cyflog Byw yw’r sefydliad sydd wrth wraidd y mudiad annibynnol o fusnesau, mudiadau a phobl sy’n credu y dylai diwrnod caled o waith olygu diwrnod tâl teg. Yr ydym yn cydnabod a dathlu’r arweinyddiaeth a ddangosir gan bron 9,000 o Gyflogwyr Cyflog Byw ar draws y DU sy’n ymroi, yn wirfoddol, i sicrhau bod eu staff yn ennill Cyflog Byw go iawn, sy’n talu costau byw. Yr ydym yn un o fentrau Citizens UK.

Scroll to Top