- Pe byddai dim ond chwarter o weithiwyr Cymru sy’n derbyn cyflog isel yn gweld eu cyflogau yn codi i lefel y Cyflog Byw go-iawn, gallai hyn rhoi hwb gwerth £75.4m i economi Cymru.
- Ar hyn o bryd mae 144,000 o weithwyr Cymru yn ennill cyflog is na’r Cyflog Byw go-iawn.
- £10.90 yw gwerth y Cyflog Byw go-iawn ar draws y DU, a hwn yw’r unig gyflog sy’n seiliedig ar gwir gostau byw.
- Ar hyn o bryd mae bron 500 o gyflogwyr achrededig Cyflog Byw yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Portmeirion, Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant, Shaw Healthcare a Sparkles Cleaning.
Mae ymchwil newydd a gyhoeddir heddiw yn dangos y gallai mabwysiadau’r Cyflog Byw go-iawn ar raddfa ehangach olygu hwb economaidd sylweddol i economi Cymru.
Mae gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan y Living Wage Foundation, ac a gynhaliwyd gan y Smith Institute, y Local Living Wage Dividend, wedi darganfod pe byddai dim ond chwarter o’r bobl sy’n ennill llai na’r Cyflog Byw go-iawn yn gweld eu cyflogau’n codi i’r Cyflog Byw go-iawn, byddai’r cynnydd mewn cyflogau, cynhyrchiant a gwario yn cyfrannu dros £75.4m at economi Cymru.
Gydag aelwydydd Cymru’n wynebu argyfwng costau byw a thwf economaidd yn llonydd, mae ymchwil heddiw yn dangos y ffordd y gallai’r Cyflog Byw go-iawn daclo’r ddau, a chefnogi economi twf-uchel, cyflog uchel yng Nghymru.
Erbyn hyn mae bron 500 o gyflogwyr achrededig Cyflog Byw yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Portmeirion, Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant. O ganlyniad i’w hymrwymiad, mae dros 17,000 o weithwyr Cymru yn derbyn codiad cyflog blynyddol yn unol â chostau byw.
Y Cyflog Byw go-iawn yw’r unig gyfradd cyflog a seilir ar wir costau byw. Ar hyn o bryd mae’n £10.90 ar draws y DU. Am weithiwr llawn-amser mae hynny’n golygu £2,730 y flwyddyn yn fwy na gweithiwr sy’n ennill Cyflog Byw Cenedlaethol y llywodraeth.
Dyma a ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
“Dw i’n falch bod mwy o fusnesau Cymru nag erioed yn mabwysiadu’r cyflog byw go-iawn, gan fod cyflogwyr yn adnabod y manteision sydd iddyn nhw, eu gweithlu, a’r economi ehangach.
Tra bod y cynnydd parhaus yma’n galonogol iawn, ‘rydym yn cydnabod nad yw pob cyflogwr yn dechrau o’r un man, a bod y pwysedd cyfredol a’r costau cynyddol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus a busnesau yn cynnig heriau real iawn. Byddwn yn parhau i weithio gyda chyflogwyr, undebau llafur a’n partneriaid er mwyn hyrwyddo buddion y cyflog byw go-iawn”.
Dyma a oedd gan Ceri Jennings, Rheolwr Gyfarwyddwr Sparkles Cleaning Services Wales i’w ddweud: “Mae talu’r Cyflog Byw go-iawn, yn syml, y peth cywir i’w wneud. Mae’n bwysig i ni bod ein staff yn ennill digon i oroesi’n ariannol a byw bywyd urddasol, ond mae hefyd yn golygu gweithlu sy’n hapusach ac yn fwy cynhyrchiol.
“Ma’re adroddiad heddiw yn dangos y gallai’r Cyflog Byw rhoi hwb i’r economi leol, gan fod gweithwyr Cymreig sy’n derbyn y Cyflog Byw yn debygol o wario’r arian ychwanegol hwnnw yn lleol. Byddwn yn annog unrhyw fusnesau sydd heb achredu i ymuno â’r cynllun, a thalu Cyflog Byw go-iawn i’w gweithwyr; ni fu erioed dim pwysicach”.
Dyma a ddywedodd y Dr Deborah Hann, Cyd-gadeirydd Dinasyddion Cymru Wales, sy’n arwain yr ymgyrch Cyflog Byw yng Nghymru: “Mae gweithredu’r Cyflog Byw Go-iawn mewn gofal cymdeithasol yn gyflawniad carreg filltir i’n hymgyrch, gan godi pob gweithiwr gofal yng Nghymru o dlodi mewn gwaith. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos gwir arweinyddiaeth wrth ymrwymo at ariannu’r Cyflog Byw go-iawn mewn gofal cymdeithasol, a dodi £43 miliwn ychwanegol ym mhecynnau cyflog ein gweithwyr gofal.
Wrth i gostau byw gynyddu, galwn ar y mwyafrif o Fyrddau Iechyd a chynghorau lleol Cymru nad ydynt, ar hyn o bryd, yn gyflogwyr Cyflog Byw i weithio gyda Cynnal Cymru, Partner Achrededig y Sefydliad Cyflog Byw yng Nghymru, a dechrau ar y daith tuag at achredu fel cyflogwyr Cyflog Byw”.
Dyma a oedd gan Katherine Chapman, Cyfarwyddwr y Living Wage Foundation, i’w ddweud:
“Mae talu’r Cyflog Byw go-iawn nid yn unig y peth cywir i’w wneud ar ran gweithwyr, ond mae hefyd yn dda i fusnes a’r economi leol ehangach. Yng nghanol argyfwng economaidd na’s gwelwyd ei fath o’r blaen, mae talu’r Cyflog Byw go-iawn yn taclo tlodi mewn gwaith ac yn rhoi hwb hanfodol i economi’r DU.
Gyda’r cynnydd mewn costau byw, ni fu erioed yn bwysicach bod cyflogwyr sy’n gallu gwneud hynny yn darparu cyflog a seilir ar gostau byw, acyn ymuno â dros 2,900 o gyflogwyr Cyflog Byw yng Nghymru. Drwy wneud hynny, byddant nid yn unig yn cynnig diogelwch a sefydlogrwydd i’w gweithlu ond hefyd yn rhoi hwb i’r economi leol”.