HWB I GYFLOGAU DROS 18,000 O WEITHWYR CYMRU WRTH I’R CYFLOG BYW GO-IAWN GODI I £10.90

  • Cynnydd o 10.1% yn y Cyflog Byw go-iawn, y codiad blynyddol mwyaf hyd yn hyn

  • Bydd dros 390,000 o weithwyr Cyflog Byw yn derbyn hwb i’w cyflog oddiwrth dros 11,000 o gyflogwyr Cyflog Byw ledled y DU
  • Mae bron 500 o gyflogwyr yng Nghymru wedi’u achredu fel cyflogwyr Cyflog Byw, sy’n golygu hwb i gyflog 18,600 o weithwyr Cymru
  • Dros y flwyddyn ddiwethaf mae £10.6 miliwn o arian cyflog ychwanegol wedi’u dalu i weithwyr cyflog-isel yng Nghymru
  • Erbyn hyn mae’r cyfraddau newydd yn werth bron £3,000 yn fwy y flwyddyn yn y DU na’r isafswm cyflog

Bydd dros 18,000 o weithwyr Cymru yn derbyn hwb hanfodol costau byw i’w cyflogau diolch i’r bron i 500 o gyflogwyr Cymru, gan gynnwys Redrow Homes plc, Canolfan Mileniwm Cymru a Burns Pet Food, sydd wedi’u hymrwymo at dalu Cyflog Byw go-iawn i’w holl staff.

Bydd y gyfradd Cyflog Byw newydd yn codi i £10.90 yr awr ar draws y DU (codiad o £1) ac i £11.95 yr awr yn Llundain (codiad o 90c). Mae codi’r cyfraddau Cyflog Byw wedi’i ddwyn ymlaen eleni er mwyn cydnabod y cynnydd llym mewn costau byw dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r cyfraddau Cyflog Byw go-iawn yn dal i fod yr unig gyfraddau cyflog sydd yn cael eu cyfrifo’n annibynnol, ac a seilir ar yr hyn sydd ei angen gan bobl i fyw arno. Eleni, mae’r gyfradd wedi gweld cynnydd o 10.1% yn y DU ac 8.1% yn Llundain, mwy nag a welwyd erioed yn hanes 11-mlynedd y Sefydliad Cyflog Byw, a sy’n adlewyrchu’r cynnydd sylweddol mewn costau byw.

Mae ymchwil newydd gan Ysgol Fusnes Caerdydd yn dangos bod gweithwyr Cyflog Byw wedi gweld budd gwerth mwy na £338m mewn cyflogau ychwanegol dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, a bod un o bob 10 gweithiwr y DU erbyn hyn yn gweithio i Gyflogwr Cyflog Byw achrededig.

Y cyfraddau Cyflog Byw newydd a’r ‘Cyflog Byw Cenedlaethol’ – esbonio’r gwahaniaeth.

Yn wahanol i isafswm cyflog y Llywodraeth (‘Y Cyflog Byw Cenedlaethol’ i’r rhai dros 23 oed – £9.50) y Cyflog Byw go-iawn yw’r unig gyfradd gyflog sydd wedi’i gyfrifon’n annibynnol, ac a seilir ar gostau byw cynyddol. Byddai gweithiwr llawn-amser sy’n ennill y Cyflog Byw go-iawn yn ennill £2,730 y flwyddyn yn fwy na gweithiwr yn ennill isafswm cyfredol y llywodraeth (CBC), a £1,950 yn fwy na’i cyflog presennol.

Mae’r mudiad Cyflog Byw yn dal i dyfu

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r mudiad Cyflog Byw wedi dal i dyfu, a’r nifer o gyflogwyr Cyflog Byw yn fwy na dyblu, ac mae’r cyflogwyr Cyflog Byw sydd wedi datgan eu bwriad yn ystod y cyfnod hwnnw’n cynnwys Neuadd Frenhinol Albert, Prifysgol Aston a’r Excel Centre. Maen nhw’n ymuno â hanner cwmïau’r FTSE 100, enwau adnabyddus megis Aviva, Clwb Pêl-droed Everton, Burberry a Lush, ynghyd â miloedd o gwmnïau bychan sy’n dewis talu’r Cyflog Byw go-iawn er mwyn rhoi mwy o sicrwydd a sefydlogrwydd i’w gweithwyr a’u teuluoedd.

Erbyn hyn mae hefyd 39 cyflogwr Oriau Byw yn bodoli, gan gynnwys abrdn, Aviva, a Chymdeithas Adeiladu West Brom, cyflogwyr sy’n mynd y tu hwnt i dalu’r Cyflog Byw go-iawn gan hefyd warantu isafswm o 16 awr o waith yr wythnos, rhybudd mis o’r patrymau shifft a chytundeb sy’n adlewyrchu’r oriau a weithir.

Cyflog isel

Mae 4.8m o weithwyr yn derbyn cyflog sy’n llai na’r Cyflog Byw go-iawn, ac mae 263,000 ohonynt yng Nghymru. Mae 22% o’r holl swyddi yng Nghymru yn talu cyflog sy’n is na’r Cyflog Byw go-iawn. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf gan y Living Wage Foundation wedi darganfod bod mwy o weithwyr, dros y 6 mis diwethaf, yn mynd heb fwyd ac yn defnyddio banciau bwyd nag erioed o’r blaen. Dywedodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwr y Living Wage Foundation: “Gyda chostau byw yn codi mor gyflym, mae miliynau yn wynebu’r dewis ofnadwy o “fwyta neu wresogi” y gaeaf yma – dyna paham y mae’r Cyflog Byw go-iawn yn bwysicach nag erioed. Bydd cyfraddau newydd heddiw yn rhoi mwy o sicrwydd a sefydlogrwydd i gannoedd o filoedd o weithwyr a’u teuluoedd yn y cyfnod hynod anodd sydd ohoni.

“Yr ydym yn wynebu heriau digynsail gyda’r argyfwng costau-byw, ond mae busnesau yn dal i weithredu a chefnogi gweithwyr drwy gofrestru fel cyflogwyr Cyflog Byw, a hynny mewn niferoedd na’s gwelwyd o’r blaen. Gwyddwn bod y Cyflog Byw yn beth da i gyflogwyr yn ogystal ag i weithwyr, dyna paham y mae’n rhaid i’r Cyflog Byw go-iawn barhau i fod wrth galon unrhyw ddatrysiad i daclo’r argyfwng costau-byw”

Dyma a ddywedodd Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru: “Mae cyhoeddi’r cyfraddau heddiw yn golygu y bydd dros 18,000 o weithwyr Cymru yn gweld cynnydd yn eu cyflog, ac yn darparu llinell fywyd hanfodol i’r gweithwyr hyn a’u teuluoedd.

Gwyddwn bod hwn yn gyfnod anodd i bawb, dyna paham y mae mor galonogol gweld y nifer o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig ar draws Cymru yn dal i dyfu, gyda bron 135 yn rhagor o gyflogwyr yn y rhwydwaith nag yr oedd y llynedd, gan gynnwys llawer o BBaCh a sefydliadau’r trydydd sector. Yr ydym yma i gefnogi cyflogwyr yng Nghymru drwy’r broses achredu oherwydd ein bod yn gwybod bod talu’r Cyflog Byw yn dod â budd i gyflogwyr yn ogystal ag i weithwyr”.

Dyma a ddywedodd Sarah Maher, Arweinydd Profiad y Gweithiwr a Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn Wealthify, cyflogwyr Cyflog Byw a leolir ym Mhenarth:

“Gan wybod ein bod yn wynebu argyfwng costau byw yn 2022, ‘roeddwn yn ymwybodol bod mwy y gallwn wneud i helpu. ‘Roeddwn am sicrhau ein bod yn gwneud popeth posibl i gefnogi ein cyfweithwyr a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Felly, ym mis Chefror 2022, ‘roeddwn wedi achredu fel cyflogwr Cyflog Byw er mwyn gwneud yn siwr bod ein gweithwyr yn derbyn cyflog teg am eu gwaith. Gyda chostau byw yn dal i godi, byddwn yn parhau i adolygu’n cefnogaeth o’n gweithwyr, proses a fydd yn cynnwys cysoni cyflogau gyda’r gyfradd Cyflog Byw newydd’.

Dyma oedd gan Sam, gweithiwr gofal Cyflog Byw, i’w ddweud: “Fel yr wyf fi a’m cydweithwyr yn dweud drwy’r amser, nid yw bod yn weithiwr gofal yn swydd eich bod yn dewis os yr ydych am wneud llawer o arian. Yr ydych yn gwneud y swydd oherwydd eich bod yn angerddol, yn mwynhau gweithio gyda phobl, ac am helpu eraill.

Ond, y gwir plaen yw bod cost popeth yn cynyddu, mae cyflogau yn aros yn ddigyfnewid, ac nid oes gan yr holl bobl da, angerddol ac anhunanol ddewis ond gadael swydd yr ydym yn ei charu, oherwydd bod gennym deuluoedd i’w gwarchod a biliau a’r rhent i’w talu. Mae codiad o £1 yr awr yn golygu hyd at £12 ychwanegol y dydd, £50 ychwanegol yr wythnos ac, yn y pen draw, bron £200 y mis. Yn y cyfnod ansicr hwn, mae’n golygu nad oes angen dewis rhwng gwresogi’r tŷ a bwyta. Byddai’n darparu cefnogaeth arwyddocaol yn ystod yr argyfwng costau byw ac, ar yr un pryd, fe allai atal pobl rhag gadael y diwydiant gofal”.

Beth yw’r Cyflog Byw go-iawn?

Mae’r Cyflog Byw go-iawn yn gyfradd yr awr a gyfrifir yn annibynnol a sy’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol (nid Cyflog Byw Cenedlaethol llywodraeth y DU). Mae’n cael ei gyfrifo yn unol â chostau byw sylfaenol y DU, ac mae cyflogwyr yn dewis talu’r Cyflog Byw yn wirfoddol. Yn ôl y Sefydliad Cyflog Byw, ers 2011 mae’r ymgyrch wedi effeithio ar dros 390,000 o weithwyr ac wedi rhoi dros £2 biliwn o arian ychwanegol i rai o weithwyr y DU sy’n ennill y cyflogau isaf.

Am y Living Wage Foundation

Y Living Wage Foundation yw’r sefydliad sydd wrth galon y mudiad annibynnol o fusnesau, sefydliadau a phobl sydd o’r farn y dylai diwrnod caled o waith olygu diwrnod teg o gyflog. Yr ydym yn cydnabod ac yn dathlu’r arweinyddiaeth a ddangosir gan dros 11,000 o Gyflogwyr Cyflog Byw ar draws y DU, sy’n ymrwymo, yn wirfoddol, i sicrhau bod eu staff yn ennill Cyflog Byw go-iawn sy’n cwrdd â chostau byw. Yr ydym yn un o fentrau Citizens UK.

Dim ond y Cyflog Byw go-iawn sy’n cael ei gyfrifo yn unol â chostau byw yn y DU ac yn Llundain. Mae cyflogwyr yn dewis tallu’r cyflog hwn yn wirfoddol. Mae’r Cyflog Byw go-iawn yn berthnasol i’r holl weithwyr dros 18 oed – gan gydnabod bod pobl ifanc yn wynebu’r un costau byw ag y mae pawb arall. Mae’r cynllun yn derbyn cefnogaeth traws-bleidiol.

O ddydd Iau, Medi 22ain cyflog Byw y DU y tu allan i Lundain fydd £10.90 yr awr. Y Cyflog Byw yn Llundain fydd £11.95 yr awr. Mae’r ffigyrau hyn yn cael eu cyfrifo’n flynyddol gan y Resolution Foundation a’u goruchwylio gan y Comisiwn Cyflog Byw, ac wedi’i seilio ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ynghylch safonau byw yn y DU ac yn Llundain.

Scroll to Top