Pam talu’r Cyflog Byw go iawn?
Mae’r Cyflog Byw yn dda i fusnes, yn dda i weithwyr ac yn dda i’r economi leol.
Drwy dalu’r Cyflog Byw mae cyflogwyr yn cymryd cam gwirfoddol i sicrhau bod eu cyflogai yn gallu ennill cyflog y mae modd iddynt fyw arno. Golyga hyn eu bod yn gallu cyfranogi at gymdeithas, gan ennill digon o arian i fyw, yn hytrach na dim ond crafu byw.
Yn ogystal â bod y peth iawn i’w wneud, mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos y buddion busnes o fod yn gyflogwr Cyflog Byw, yn ychwanegol at y buddion sy’n dod i’r economïau lleol.
Fe allai codi 1/4 o’r gweithwyr incwm-isel i lefel y cyflog byw gwirioneddol greu hwb economaidd gwerth £1.1bn i brif ddinasoedd y DU
Roedd gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn 2018 wedi darganfod bod y cyflog ychwanegol a delir gan awdurdodau lleol a achredwyd fel Cyflogwyr Cyflog Byw yn cael ei fuddsoddi yn yr economi leol. Roedd yr adroddiad wedi dod i’r casgliad pe byddai ond chwarter o’r rhai sy’n derbyn cyflogau isel yn gweld eu cyflogau yn codi i’r Cyflog Byw gwirioneddol mewn deg o brif ddinas-rhanbarthau’r DU, gallai’r cynnydd dilynol mewn cyflogau, cynhyrchiant a gwariant olygu hwb economaidd gwerth £1.1 biliwn i brif ddinasoedd y DU. Mae hyn yn darlunio’r effaith gronnol pan y mae awdurdodau lleol y talu’r Cyflog Byw gwirioneddol. Pan mae gan weithwyr ddigon a arian i fyw arno, mae ganddynt fwy o incwm i’w wario yn yr economi leol.
Pam ddod yn sefydliad achrededig?
Mae cyflogwyr achrededig yn arddangos Nod Cyflogwr Cyflog Byw i gydnabod eu hymrwymiad at y Cyflog Byw.
Mae hyn yn cynnwys plac, nwyddau ac asedau digidol er mwyn dangos i’w staff a’u rhwydweithiau eu bod yn gyflogwr cyfrifol. Hefyd, bydd y cyflogwr y cael ei restru ar wefan a map cyflogwyr y Sefydliad Cyflog Byw, ac mae eu hachredu yn aml yn cael ei gydnabod gan y cyfryngau.
Buddion Busnes
Mae adroddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd wedi tynnu sylw at yr effaith bositif y mae’r Cyflog Byw yn cael ar fudiadau. Roedd yr arolwg o fwy ‘na 800 busnes Cyflog Byw achrededig, yn amrywio o BBaCh i gwmnïoedd y FTSE 100, wedi darganfod bod 93%:
Dywed 94% o Fusnesau Cyflog Byw eu bod wedi MANTEISIO ers achredu
yn dweud ei fod wedi gwella enw da’r busnes
yn dweud ei fod wedi helpu iddynt wahaniaethu eu hunain o gwmnïoedd tebyg yn eu diwydiant
yn dweud ei fod wedi gwella recriwtio gweithwyr i’w busnes
Yn 2021, canfu’r arolwg o fwy na 1500 o fusnesau Cyflog Byw go iawn achrededig, yn amrywio o fusnesau bach a chanolig i gwmnïau FTSE 100, fod 94% wedi dweud eu bod wedi ennill fel busnes ar ôl dod yn gyflogwr Cyflog Byw go iawn.
Yn ychwanegol:
- Mae 93% o Fyfyrwyr Prifysgol eisiau gweithio i gyflogwyr achrededig.
- Roedd 90% o ddefnyddwyr yn fwy tebygol o brynu cynnyrch neu wasanaeth gan gyflogwr a oedd yn talu’r Cyflog Byw go iawn.
- Mae 85% o fuddsoddwyr yn nodi bod buddsoddi mewn gweithwyr yn ffactor pwysig wrth wneud penderfyniadau. Dywed 62% fod hyn yn benodol wir ar gyfer achrediad Cyflogwr Cyflog Byw.
Buddion i weithwyr yng Nghymru
Ydych chi’n gwybod faint o wahaniaeth mae’n gwneud?
"Does dim gorfod poeni am y pethau sylfaenol"
"Arbed ychydig o arian ar gyfer argyfwng neu ddiwrnod glawog"
"Treulio mwy o amser o ansawdd gyda'n plant"
Mae 1 o bob 5 o’r gweithwyr yng Nghymru yn ennill llai na’r Cyflog Byw gwirioneddol” (TUC, 2019)
Gall ennill y Cyflog Byw gwirioneddol olygu llawr mwy na chodi cyflog yn unig. Gall olygu cael y modd i gynilo arian ar gyfer argyfwng, y gallu i dreulio mwy o amser gyda’r teulu a gall olygu llonyddwch meddwl rhag poeni am sut mae fforddio’r pethau sylfaenol.