Penblwydd y mudiad Cyflog Byw yn 20 mlwydd oed.

Mae eleni yn gweld 20fed Penblwydd y mudiad Cyflog Byw yn y DU, a phenblwydd y Sefydliad Cyflog Byw yn 10 mlwydd oed. [Dolen i wefan y Sefydliad Cyflog Byw / Dinasyddion Cymru].

Dros yr 20 wythnos nesaf byddwn yn myfyrio ar y ffordd y mae’r Cyflog Byw wedi datblygu yng Nghymru, a’i rȏl yn llunio economi a chymdeithas mwy cyfartal yng Nghymru.

Yn amlygu cyflogwyr, gweithwyr ac arweinyddion y Cyflog Byw o ddiwydiannau a sectorau amrywiol, ‘rydym yn gobeithio dod â’r Cyflog Byw gwirioneddol yng Nghymru yn fyw.

Bydd yr 20 wythnos yn ein tywys at yr wythnos Cyflog Byw, a gyhelir ym mis Tachwedd, pan y byddwn yn edrych ymlaen at weld sut gall y Cyflog Byw chwarae rȏl yn parhau i greu Cymru mwy cyfartal, gan gynnwys, yn rhannol, yr agenda Gwaith Teg a phontio teg at economi carbon isel.

Discover more

Scroll to Top