Polisi Preifatrwydd

Mae ein polisi preifatrwydd llawn yn cael ei hesbonio isod ond y prif bwyntiau i’w nodi yw:

  • Byddwn ond yn gofyn am yr wybodaeth sydd wir ei angen arnon ni.

  • Byddwn yn casglu ac yn defnyddio’r data personol y byddwch yn rhannu gyda ni mewn ffordd dryloyw, onest a theg.

  • Byddwn bob amser yn parchu eich dewisiadau ynghylch y data y byddwch yn rhannu gyda ni a’r sianlei cyfathrebu ‘rydych yn gofyn i ni i’w defnyddio.

  • Byddwn yn gosod mesurau diogelu priodol yn eu lle er mwyn diogelu’r data personol ‘rydych yn rhannu gyda ni.

  • Ni ffyddwn byth yn gwerthu eich data.

Pan fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu, byddwn yn dweud yn glir wrth yr unigolyn at ba ddiben y bydd yr wybodaeth y cael ei defnyddio a phwy fydd yn cael mynediad ati ac, os y bwriedir ei rhannu, gyda phwy ac at ba ddiben y gwneir hynny.

Yn unol â’r rheoliadau GDPR, mae gennym bolisi ‘optio i mewn yn unig’ ar gyfer cyfahrebu. Mae hyn y golygu ein bod ond yn cyfathrebu gyda’r rhai hynny sydd wedi datgan yn glir eu bod yn hapus i dderbyn ein deunydd drwy eu sianel(i) o ddewis (ebost, SMS, ffȏn neu’r post).

Mae ein cyfathrebiadau yn cynnwys gwybodaeth am ein digwyddiadau, cyhoeddiadau ac ymgyrchoedd Cyflog Byw diweddaraf, a gwybodaeth am y Cyflog Byw. Os hoffech dderbyn y fath gyfathrebiadau ond heb ddewis gwneud hynny hyd yn hyn, ebostiwch ni yn shwmae@cynnalcymru.com. os gwelwch yn dda

Ni ywCynnal Cymru – Sustain Wales. Ni yw elusen Datblygiad Cynaliadwy mwyaf blaenllaw Cymru (Cwmni cofrestredig 4622047 | Elusen gofrestredig 1158496).

Ni yw’r corff achredu ar gyfer y Cyflog Byw yng Nghymru, ac ‘rydym yn gyfrifol am reoli a phrosesu achrediadau yng Nghymru ar ran y Sefydiad Cyflog Byw a Dinasyddion y DU.

Mae’r polisi hwn yn esboio sut ‘rydym yn casglu gwybodaeth o ymholiadau, cyflogwyr achrededig, tanysgrifwyr a defnddwyr y wefan “Cyflog Byw” (y ceir mynediad ati drwy www.livingwage.wales) (yr “Wefan”); y math o wybodaeth ‘rydym yn ei chasglu, a’r ffordd y byddwn yn defnyddio’r fath wybodaeth).

Drwy ddefnyddio’r Wefan, ‘rydych yn cydnabod eich bod wedi darllen y Polisi hwn, a’ch bod yn cydsynu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu, ei defnyddio a’i datgelu fel y nodir yn y Polisi hwn. Mae’r Polisi hwn wedi’i ymgorffori yn ein Telerau ac Amodau Defnyddio’n Gwefan.

Cadwn yr hawl i ddiwygio, amrywio a/neu dynnu yn ȏl y Polisi hwn o bryd i’w gilydd, ac argymhellwm eich bod yn gwirio’r polisi hwn yn gyson er mwyn sicrhau eich bod yh ymwybodol o unrhyw, a phob, newid o’r fath.

‘Rydym yn casglu gwybodaeth yn y ffyrdd canlynol:

Pan fyddwch yn ei rhoi i ni yn UNIONGYRCHOL

Gallwch rhannu eich gwybodaeth gyda ni i fod yn gyflogwr achrededig Cyflog Byw, i arwyddo am un o’n digwyddiadau, i adrodd eich hanes i ni, gymryd rhan yn ein gweithgarddau neu gyfathrebu â ni.

Pan fyddwch yn ei rhoi i ni yn ANUNIONGYRCHOL

Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda threfnyddion digwyddiadau annibynnol, neu safleodd codi arian megis Just Giving. Bydd y trydydd partïon annibynnol hyn ond yn gwneud hynny wedi i chi gydsynu i rannu eich gwybodaeth gyda Cynnal Cymru – Sustain Wales.

Pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd I FUDIADAU ERAILL ei rhannu, neu ei bod ar gael yn gyhoeddus

Mae’n bosibl y byddwn yn cyfuno’r wybodaeth a roddwyd i ni gennych chi gyda gwybodaeth sydd ar gael o ffynonellau allanol er mwyn cael gwell ddealltwriaeth o’n cefnogwyr a gwella ein gwaith.

Mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth y byddwn yn derbyn oddiwrth fudiadau eraill yn dibynnu ar eich gosodiadau preifatrwydd neu eich ymatebion, felly dylech eu gwirio yn gyson. Daw yr wybodaeth yma o’r ffynonellau canlynol:

Mudiadau trydydd parti
Mae’n bosil eich bod wedi rhoi caniatâd i gwmni neu fudiad arall rhannu eich data gyda thrydydd partïon, gan gynnwys elusennau eraill. Efallai bod hyn wedi digwydd wrth ichi brynu cynhyrchion neu wasanaeth, gofrestru am ddigwyddiad arlein neu gofrestru gyda safle achredu, e.e. y Sefydliad Cyflog Byw.

Y cyfryngau cymdeithasol
Yn dibynnu ar eich gosodiadau neu bolisïau preifatrwydd y cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau negeseuon megis Facebook, WhatsApp neu Twitter, efallai y byddwch yn cydsynu ein bod yn cael mynediad at wybodaeth o’r cyfrifon neu’r gwasanaethau hynny.

Gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus
Mae’n bosibl y bydd hyn yn cynnwys yr wybodaeth sydd ar gael o lefydd megis Tŷ’r Cwmnïau, a gwybodaeth a gyhoeddwyd mewn erthyglau/ papurau newydd.

Pan fyddwn yn ei gasglu drwy ein gwefan
Yn debyg i’r mwyafrif o wefannau, ‘rydym yn defnyddio “cwcis” i wneud ein safle – a’r ffordd eich bod yn ei defnyddio – yn well. Mae cwcis yn golygu y bydd gwefan yn eich cofio chi. Ffeiliau testun yw’r rhain sy’n trosglwyddo safleodd i’ch cyfrifiadur (neu ffȏn / llechen). Maen nhw’n gwneud rhyngweithio gyda gwefan yn gyflymach ac haws – er enghraifft drwy osod eich enw a’ch cyfeiriad yn y meysydd testun yn awtomatig. Mae manylion pellach ar gael yn ein Polisi Cwcis.

Yn ychwanegol at hyn, mae’n bosibl y bydd y math o ddyfais ‘rydych yn ei ddefnyddio i gael mynediad at ein gwefan, a gosodiadau’r dyfais hwnnw yn rhoi gwybodaeth i ni am y dyfais, gan gynnwys y math o ddyfais, pa ddyfais penodol sydd gennych, pa system weithredu ‘rydych yn ei defnyddio, beth yw gosodiadau eich dyfais a’r rheswm am y chwalfa. Bydd gan wneuthurwr eich dyfais neu ddarparwr eich system weithredu mwy o fanylion ynghylch pa wybodaeth y mae eich dyfais yn rhannu gyda ni.

Mae’r math a’r maint o wybodaeth a gesglir gennym ni, a’r ffordd ‘rydym yn ei defnyddio yn dibynnu ar eich rheswm dros ei rhannu.

Os byddwch yn cysylltu â ni drwy ein gwefan ynghylch achredu, byddwn fel arfer yn casglu:

  • Eich enw
  • Eich sefydliad
  • Eich manylion cyswllt
  • Eich manylion banc neu gerdyn credyd.

Pan fo hynny’n briodol, efallai y byddwn hefyd yn gofyn am:

  • Wybodaeth sy’n berthnasol i’ch sefydliad (Er engrhaifft y nifer o gyflogai sy’n derbyn y Cyflog Byw gwirioneddol ar hyn o bryd, neu fanylion yn ymwneud â chytundebau cyflogaeth trydydd parti)

Yn bennaf, byddwn y defnyddio eich manylion i:

  • Ddarparu’r gwasanaethau, cynnyrch neu wybodaeth ‘rydych wedi gofyn amdanynt
  • Cadw cofnod o’ch perthynas chi gyda ni
  • Sicrhau ein bod yn gwybod beth yw eich dewis ddull o gyfathrebu
  • Deall sut y gallwn wella ein gwasanaethau, cynnyrch neu wybodaeth.

Os y byddwch yn ein cefnogi drwy, er enghraifft, wirfoddoli, ymuno ag unrhyw ddigwyddiad neu ymuno ag un o’n hymgyrchoedd, efallai y byddwn yn casglu:

  • Eich enw
  • Enw eich sefydliad
  • Eich manylion cyswllt
  • Eich manylion banc neu gerdyn credyd.

Lle bo hynny’n briodol (e.e. os byddwch yn gwirfoddoli gyda ni neu ein cynrychioli ni mewn digwyddiadau ayyb) mae’n bosibl y byddwn hefyd yn gofyn am:

  • Wybodaeth sy’n berthnasol i’ch iechyd (er enghraifft os oes gennych anabledd neu ofynion deietegol penodol)
  • Eich perthynas agosaf mewn achos brys
  • Manylion eich pasbort a/ neu eich trwydded yrru

Yn bennaf, byddwn y defnyddio eich manylion i:

  • Ddarparu’r gwasanaethau, cynnyrch neu wybodaeth ‘rydych wedi gofyn amdanynt
  • Cadw cofnod o’ch perthynas chi gyda ni
  • Sicrhau ein bod yn gwybod beth yw eich dewis ddull o gyfathrebu
  • Deall sut y gallwn wella ein gwasanaethau, cynnyrch neu wybodaeth.

Os byddwch yn gosod eich manylion ar un o’n ffurflenni arlein a ddim yn ‘anfon’ neu’n ‘cyflwyno’r’ ffurflen, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i weld os y gallwn eich helpu gydag unrhyw broblemau sydd gennych gyda’r ffurflenni neu ein gwefannau.

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i ddarganfod a lleihau twyll.

Os byddwch yn penderfynu bwcio unrhyw hyfforddiant neu ddigwyddiadau drwy ein gwefan, byddwn fel arfer yn casglu:

  • Eich enw
  • Enw eich sefydliad
  • Eich manylion cyswllt
  • Eich manylion banc neu gerdyn credyd.

Pan fo hynny’n briodol efallai y byddwn hefyd yn gofyn am:

Wybodaeth am eich iechyd (er engrhaifft os ydych yn anabl neu os oes gennych ofynion deietegol penodol).

Gyda’ch caniatâd, byddwn yn cysylltu â chi i’ch hysbysu am y cynnydd ‘rydym yn gwneud ynghylch y Cyflog Byw yng Nghymru, ein digwyddiadau ac ymgyrchoedd a gofyn am eich cefnogaeth a chyfranogiad. Yn achlysurol, efallai y bydd y cyfathrebiadau hyn yn cynnwys gwybodaeth o sefydliadau partneriaeth neu sefydliadau sy’n ein cefnogi ni. ‘Rydym yn ei gwneud hi’n hawdd ichi ddweud wrthon ni sut ‘rydych am gyfathrebu, yn eich dewis ddull chi. Mae ein ffurflenni yn cynnwys cwestiynau dewis cyfathrebu clir, ac wrth gysylltu â chi byddwn yn rhoi manylion ynghylch sut i optio allan. Os nad ydych am glywed oddiwrthon ni, mae hynny’n iawn.

Rhowch wybod wrth gyflwyno eich data, neu gysylltwch â ni yn shwmae@cynnalcymru.com

Nid ydym yn gwerthu neu’n rhannu manylion personol i dryddd partïon at ddibenion marchnata. Ond os byddwn yn cynnal digwyddiad mewn partaeriaeth â mudiad arall a enwir efallai bydd angen rhannu eich manylion. Ond byddwn yn gwbl glir ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd i’ch data pan fyddwch yn cofrestru.

Byddwn yn sicrhau bod rheolaethau technegol priodol yn eu lle i ddiogelu eich manylion personol. Er enghraifft, mae ein ffurflenni arlein bob amser wedi’u hamgrymptio ac mae ein rhwydwaith wedi’i ddiogelu ac yn cael ei fonitro fel mater o drefn.

Byddwn yn cynnal adolygiadau cyson ynghylch pwy sydd â mynediad at yr wybodaeth sydd yn ein meddiant er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth ond ar gael i staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr a hyfforddwyd yn briodol.

‘Rydym yn defnyddio cwmnïau allanol i gasglu a phrosesu data personol ar ein rhan. ‘Rydym yn cynnal gwiriad cynhwysfawr o’r cwmnïau hyn cyn gweithio gyda nhw, ac yn gosod contract yn ei le yn amlinellu ein disgwyliadau a’n gofynion, yn benodol o ran dull y cwmnïau o reoli’r data personol y maen nhw’n casglu, neu y mae ganddynt fynediad ato.

Efallai y bydd angen datgelu eich manylion ar gais yr heddlu, cyrff rheolaethol neu ymgynghorwyr cyfreithiol.

Mewn amgylchiadau eraill dim ond os ‘rydym wedi derbyn eich cydsyniad pendant ac ar sail gwybodaeth, y byddwn yn rhannu eich data.

Lle bo hynny’n bosibl, i gadw eich cofnodion yn gyfredol, byddwn yn defnyddio ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus; er enghraifft, cronfa ddata Newid Cyfeiriad Cenedlaethol Swyddfa’r Post a gwybodaeth a ddarperir gan sefydliadau eraill, fel y disgrifiwyd uchod.

‘Rydym wir yn gwerthfawrogi cael ein hysbysu o unrhyw newidiadau yn eich manylion cyswllt.

Y unol â’r rheoliadau GDPR, mae gennych yr hawl i wneud cais ein bod stopio prosesu eich data personol (yr hawl i gael eich anghofio) ac, os nad oes ei angen arnom at y pwrpas y roddwyd yr wybodaeth i ni (e.e. ymaelodi â ni neu gofrestru ar gyfer digwyddiad), byddwn yn ei dileu. Cysylltwch â ni yn  shwmae@cynnalcymru.com os eich gennych unrhyw bryderon.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Os oes unrhyw anghysondebau yn yr wybodaeth y byddwn yn cdaw, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda, a byddwn yn eu cywiro.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch rhain, os gwelwch yn dda, at shwmae@cynnalcymru.com, ac i dderbyn gwybodaeth bellach gweler canllawiau’r Comisiynydd Gwybodaeth yma (dolen allanol).

Mae’n bosibl y byddwn, o bryd i’w gilydd, yn newid y Polisi Preifatrwydd hwn. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r ffordd ‘rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol byddwn yn gwneud hynny’n glir ar wefan Cyflog Byw Cymru a/ neu drwy gysylltu â chi yn uniongyrchol.

Pe byddai Ein busnes neu’n hasedau yn cael eu gwerthu neu gaffael, yn rhannol neu’n gyfangwbl, mae’n bosibl y byddai gwybodaeth cwsmeriaid yn un o’r asedau a drosglwyddir.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau parthed â’ch gwybodaeth bersonol ynghylch Ein dull o ddefnyddio eich gwybodaeth, os bydd eich manylion personol yn newid neu os ‘rydych am newid eich meddwl ynghylch unrhywun o’ch dewis ffyrdd o farchnata, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, yn  shwmae@cynnalcymru.com

‘Rydym yn defnyddio cwcis angenrheidiol i sicrhau bod ein safle yn gweithio. Hoffem hefyd osod cwcis dadansoddi i’n helpu ni wneud gwelliannau drwy fesur y ffordd ‘rydych yn defnyddio’r safle. Byddwn yn gofyn eich caniatâd cyn gosod rhain.

Mae’r cwcis angenrheidiol yn galluogi gweithrediadau craidd megis diogelwch, rheolaeth rhwydwaith ac hygyrchedd. Gallwch analluogi’r rhain drwy newid gosodiadau eich porwr, ond mae’n bosibl y bydd gwneud hyn yn effeithio ar weithrediad yr wefan.

Hoffem osod cwcis Google Analytics i’n helpu ni wella’n gwefan drwy gasglu, ac adrodd yn ȏl, gwybodaeth ynghylch eich defnydd ohoni. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn ffordd nad yw’n adnabod neb yn uningyrchol. Am wybodaeth bellach am y ffordd y mae’r cwcis hyn yn gweithredu, ewch i’n ‘tudalen Cwcis’ os gwelwch yn dda.

Scroll to Top