Y Cyflog Byw gwirioneddol yw’r unig gyfradd gyflog a gyfrifir ar sail costau byw. £10.90 yw’r gyfradd yng Nghymru ar hyn o bryd. I weithiwr amser llawn, mae hynny’n £2,730 y flwyddyn yn fwy nag i rywun sy’n ennill Cyflog Byw Cenedlaethol y llywodraeth.
Fel rhan o Wythnos Cyflog Byw 2022, mae Cynnal Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) a Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (SCVS) yn ymuno â’i gilydd i gydnabod yr effaith bositif y mae mudiadau sector gwirfoddol sy’n talu’r Cyflog Byw gwirioneddol yn ei chael, a’r hyn y mae’r sector ei angen gan gyllidwyr a phenderfynwyr i gynyddu nifer yr elusennau a’r mudiadau gwirfoddol sy’n gallu talu o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol.
Yma yng Nghymru, mae 33% o Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yn fudiadau yn y sector gwirfoddol, yn cyflogi bron 6,000 o bobl. Mae’r achrediadau hyn wedi arwain mwy nag 1,100 o weithwyr y sector gwirfoddol i dderbyn Cyflog Byw ar achrediad, gan amlinellu ymrwymiad y sector i gyflog teg a’r gwerth o sicrhau y gall staff gefnogi eu hunain wrth gefnogi eraill drwy eu gwaith.
Dywedodd gwasanaethau ieuenctid ‘Ministry of Life’: ‘Y prif reswm pam rydyn ni’n cynnig y cyflog byw siŵr o fod yw am ein bod yn fudiad trydydd sector sy’n ymdrechu i gynorthwyo pobl eraill a diwallu eu hanghenion. Byddai’n rhagrithiol i ni gyflogi staff ar gyflog y gwyddom a allai arwain at ‘dlodi mewn gwaith’, felly fel rhan o’r trydydd sector, mae angen i ni weithredu mewn modd moesegol. Os na fyddwn ni’n cynnal gwerthoedd busnes moesegol o fewn y mudiad, ni fyddwn ni’n cyfleu neges dda nac, felly, yn cyflwyno ansawdd i’n defnyddwyr gwasanaethau.’
Mae’r Centre for African Entrepreneurship’ wedi dweud
‘Mae’r Cyflog Byw gwirioneddol yn bwysig i’n mudiad gan ei fod yn adlewyrchu ein cenhadaeth graidd yn llwyr. Rydyn ni’n ymdrechu i fynd i’r afael â’r broblem o dlodi ac anghydraddoldebau sy’n bodoli mewn cymdeithas; felly, rydyn ni’n sylweddoli bod hyn yn dechrau’n fewnol, gyda ni’n gwerthfawrogi ein staff ac yn helpu i greu dyfodol mwy cyfartal iddyn nhw.’
Fodd bynnag, serch deall gwerth bod yn Gyflogwyr Cyflog Byw, gall fod yn anodd i fudiadau’r sector gwirfoddol dalu’r Cyflog Byw gwirioneddol pan nad yw cyllidwyr yn ei gwneud hi’n glir y byddant yn derbyn cyfraddau’r Cyflog Byw yng nghostau grantiau derbynyddion a chontractwyr.
I geisio newid hyn, mae’r Cyllidwyr Cyflog Byw yn rhwydwaith o fwy na 60 o gyllidwyr ledled y DU sy’n sicrhau bod swyddi a gyllidir gan grant yn cael eu cyllido ar y Cyflog Byw lle’n bosibl ac yn cynorthwyo’r rheini sy’n rhoi grantiau i ddod yn Gyflogwyr Cyflog Byw.
Mae talu’r Cyflog Byw yn fwy hanfodol nag erioed wrth i’r argyfwng costau byw dynhau ei afael. Yng Nghymru yn unig, mae 144,000 o weithwyr yn ennill llai na’r Cyflog Byw gwirioneddol, ac mewn astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw, lle cwestiynwyd 2,000 o weithwyr a oedd yn ennill llai na’r Cyflog Byw gwirioneddol:
- Dywedodd 78% o weithwyr cyflog isel mai hwn oedd y cyfnod ariannol gwaethaf y maen nhw erioed wedi’i wynebu; ac mae
- 63% o weithwyr cyflog isel wedi gorfod defnyddio banciau bwyd *Gellir gweld yr adroddiad llawn yma (Saesneg yn unig).
Mae’r Cyflog Byw gwirioneddol hefyd yn chwarae rhan enfawr mewn trechu bylchau cyflog ethnig a chreu Cymru sy’n fwy Cyfartal. Canfu astudiaeth ddiweddar gan y Sefydliad Cyflog Byw bod gweithwyr ethnig lleiafrifol yn cael eu talu’n anghyfartal gyda’r cyflogau isaf yn y DU. Gyda’r rheini ar yr incymau isaf yn fwy agored i chwyddiant uwch, dengys yr astudiaeth mai gweithwyr ethnig lleiafrifol, a gafodd eu heffeithio’n anghyfartal gan bandemig y coronafeirws, sydd unwaith eto ar ben miniog argyfwng cenedlaethol.
Os ydyn ni am gyflawni’r Nodau Llesiant, mae’n hanfodol fod y Cyflog Byw gwirioneddol yn cael ei weld fel rhan allweddol o’r agenda Gwaith Teg ac yn cael ei ymwreiddio mewn polisïau.
Rydyn ni’n galw felly i fwy o gyllidwyr a phenderfynwyr ystyried ymuno â’r Rhwydwaith Cyllidwyr Cyflog Byw ac i’w gwneud hi’n glir eu bod yn cefnogi’r Cyflog Byw gwirioneddol, gan roi’r hyder i ymgeiswyr y gallant gyllidebu eu ceisiadau’n briodol. Bydd talu’r Cyflog Byw gwirioneddol drwy gydol y sector gwirfoddol yn helpu i ddiogelu iechyd a llesiant staff ac yn fuddiol i fudiadau o ran denu a chadw talent.
Mae CGGC a Chyflog Byw Cymru wedi cyhoeddi’r syniadau da hyn ar sut i fod yn gyllidwr Cyflog Byw.