Mae Economi decach a gwyrddach i Gymru yn golygu Cyflog Byw Gwirioneddol i bawb a chefnogaeth i’r busnesau lleol sy’n ein helpu i fodloni ein hanghenion bob dydd. Rydym ni eisoes wedi helpu 600 a mwy o sefydliadau yng Nghymru i sicrhau bod 170,000 o weithwyr yn cael Cyflog Byw Gwirioneddol, ac rydym ni wedi cefnogi busnesau lleol sy’n arloesi ym maes bwyd, ynni, tai, trafnidiaeth, natur a gwasanaethau iechyd. Ond rydym ni eisiau gwneud mwy – allwch chi ein helpu ni fel Pennaeth newydd yr Economi Deg?
Bydd angen i chi fod yn frwd dros greu economi sy’n gweithio i bawb, a meddu ar y sgiliau a’r profiad i arwain ac adeiladu rhaglenni a thimau, gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ein meysydd gwaith, a bod yn rhagweithiol wrth fynd ati i ganfod cyfleoedd cyllido ac effaith newydd.
Byddwch yn arwain tîm yr Economi Deg wrth iddynt gyflawni targedau effaith ein cynllun busnes blynyddol. Bydd hyn yn golygu:
Arwain Tîm yr Economi Deg (30%)
Cefnogi’r Rhaglen Cyflog Byw Gwirioneddol (30%)
Cefnogi Rhaglen yr Economi Sylfaenol (40%)
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu unigolion a sefydliadau i elwa o’n harbenigedd — ar yr un pryd â chynyddu ein cyrhaeddiad, ein hincwm a’n heffaith fel elusen flaengar. Mae hyn yn cynnwys helpu unigolion allan o dlodi mewn gwaith, a chefnogi’r busnesau lleol sy’n bodloni ein hanghenion bob dydd.
Gair am Cynnal Cymru – Sustain Wales
Rydym ni’n elusen fywiog a blaengar ac rydym ni mewn cyfnod pwysig yn ein datblygiad ar hyn o bryd. Os yw ein cenhadaeth yn taro tant a’ch bod chi’n rhannu’r un nodau â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Sut mae gwneud cais
Cewch fwy o wybodaeth yn: www.cynnalcymru.com
