20th anniversary banner

Wythnos Cyflog Byw Cymru 2021: 15-21 Tachwedd

Mae Wythnos Cyflog Byw 15-21 Tachwedd yn gyfle cyffrous i ddarganfod mwy am y Cyflog Byw, dathlu'r rhwydwaith cyflogwyr a chynllunio am y flwyddyn i ddod.

Dyma ein hamserlen digwyddiadau am yr wythnos. Rydyn ni dal yn gweithio ar rhai o’r manylion ond bydden ni’n mewn cyswllt gyda mwy o wybodaeth ac unrhywbeth sydd angen arnoch chi er mwyn fynychu cyn bo hir ond gallech chi gofrestru nawr a threfnu’ch cyfryngau cymdeithasol!

Rydych chi hefyd yn gallu dod o hyd i fwy o wybodaeth i helpu tyfu’r mudiad yng Nghymru yn ystod Wythnos Cyflog Byw a thu hwnt!

Digwyddiad Lansio Cymru

Dydd Llun 15 Tachwedd- 08:30-09:30yb

Ymunwch â ni ar-lein am ein digwyddiad lansio cendlaethol yng Nghymru. Gobeithiwn eich gweld chi yno i ddalu llwyddiannau’r flwyddyn, y rhwydwaith Cyflogwyr Cyflog Byw ledled Cymru a chynllunio am y flwyddyn i ddod.

Bydd y Prif Weinidog Cymru y Gwir Anrh Mark Drakeford AS yn cyhoeddi’r gyfradd newydd, byddwn yn clywed straeon cyflogwyr a gweithwyr, a llawer mwy!

Cofrestrwch.


Digwyddiad Lansio Gorllewin Cymru

Monday 15ed Tachwedd – 11:00am-12:00am

Ymuno â Burns Pet Nutrition i roi croeso cynnes yn ôl i gyflogwyr achrededig Gorllewin Cymru am lansiad rhanbarthol dathliadau Wythnos Cyflog Byw.

Cofrestwch


Digwyddiad DU: The Living Wage, What is it and why does it matter?

Dydd Llun 15fed Tachwedd- 4:00yp -5:00yp

Mae’r gweminar hwn i gyflogwyr o unrhyw sector sy eisiau gwybod mwy am y Cyflog Byw go iawn. Bydd y digwyddiad yn edrych ar sut mae cyfradd yn cael ei chyfrifo, sut mae proses achredu yn gweithio, a beth allai feddwl i’ch sefydliad, staff a chymuned leol.

Byddwn yn croesawu panel amrywiol o siaradwyr o bob rhan o’r sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd, ynghyd â chynrychiolwyr o’r TUC a’r Sefydliad Resolution, er mwyn chwalu chwedlau am y Cyflog Byw, rhoi lle ichi ofyn cwestiynau, ac i gefnogi chi ar eich taith tuag at ddod yn rhan o’r mudiad Cyflog Byw.

Cofrestrwch


Ffocws Cyfryngau Cymdeithasol -Lletygarwch Caerdydd

Dydd Mawrth 16eg Tachwedd Trwy’r Dydd

yn 2019, dechreuodd Caerdydd ei siwrnai i ddod yn ddinas Cyflog Byw, Bydd ein diwrnod o fostiau Cyfryngau Cymdeithasol o dan y ffocws ‘ma yn edrych ar gynnydd tuag at amcanion Caerdydd fel dinas Cyflog Byw ac edrych ar fuddion a heriau achrediad Cyflog Byw i fusnesau, gweithwyr a’r economi lleol.

Gyda momentwm cynyddol mewn achrediadau lletygarwch yng Nghaerdydd, byddwn yn clywed mwy gan gyflogwyr am y rhesymau dros achredu a sut y bydd cefnogi cyflogau byw a gwaith teg yn niwydiant lletygarwch Caerdydd yn flaenoriaeth wrth i Gaerdydd edrych ymlaen at gyfnod nesaf ei siwrnai i ddod yn Ddinas Cyflog Byw

Mwy o wybodaeth


Cynhadledd Y Porth Gwerth Cymdeithasol

Dydd Mercher 17eg Tachwedd 11:15-12:30

Bydd Cynnal Cymru a chynrychiolwyr o Gyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal gweithdy ar Y Cyflog Byw a Gwaith Teg yng Nghymru fel rhan o gynhadledd Y Porth Gwerth Cymdeithasol Cymru.

Cefnogir y digwyddiad gan y Tasglu Gwerth Cymdeithasol Cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru, CLlLC a’r Swyddfa Llesiant a Chenhedlaeth y Dyfodol. Thema eleni fydd “Arwain y Mudiad”, gan annog busnesau a chymunedau ledled Cymru i arwain y ffordd wrth ddarparu Gwerth Cymdeithasol yng Nghymru

Cofrestwch am ddim

Discover more

Scroll to Top