Wythnos Cyflog Byw: Dathlu chwarter canrif ers sefydlu’r Mudiad Cyflog Byw

Ymunwch â ni yn nigwyddiad blynyddol Cyflog Byw Cenedlaethol Cymru. Eleni rydyn ni’n dathlu 25 mlynedd o’r Mudiad Cyflog Byw. Eleni rydyn ni’n dathlu 25 mlynedd o’r Mudiad Cyflog Byw.

Ers chwarter canrif, mae’r mudiad Cyflog Byw wedi helpu i ailddiffinio beth mae cyflog teg yn ei olygu ym Mhrydain.

Dechreuodd fel syniad gobeithiol ymysg gweithwyr ar gyflogau isel a aeth ati i ymgyrchu dros gyflog teg, ac mae bellach wedi tyfu i fod yn un o ymgyrchoedd cymdeithas sifil mwyaf llwyddiannus y 21ain ganrif.

Mae’r Cyflog Byw gwirioneddol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i filoedd o weithwyr, yn cryfhau busnesau, ac yn helpu i gefnogi cymdeithas decach. Wrth i ni nodi’r garreg filltir bwysig hon, rydyn ni’n dathlu pa mor bell mae’r mudiad wedi dod ac yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol: sef creu gwaith sy’n gweithio i bawb.

Ymunwch â ni yn y digwyddiad hwn i glywed gan Gyflogwyr Cyflog Byw, gweithwyr ac ymgyrchwyr am y gwahaniaeth y mae Cyflog Byw, Oriau Byw a Phensiynau Byw yn ei wneud ac i glywed am ddatblygiadau newydd ar draws y gofod Cyflog Byw a Gwaith Teg yng Nghymru.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

  • Adam Price AS, Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
  • Y Cynghorydd Chris Weaver, Arweinydd Cyngor Caerdydd
  • Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  • Gwasanaeth Glanhau Sparkles
  • Ymgyrchwyr o’r Mudiad Cyflog Byw

Lleoliad: Siambr y Cyngor, i fyny’r grisiau yn Y Deml Heddwch, Caerdydd
Dyddiad: Dydd Llun 9 Tachwedd
Amser: 10-12pm

Discover More

Scroll to Top