Y CYFLOG BYW GWIRIONEDDOL YN CODI I £14.10

Graphic showing a map of the UK and the living wage rate of £14.10

Bydd cyflogau bron i 22,000 o bobl sy’n gweithio i 650 o Gyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru yn codi, wrth i gyfraddau’r Cyflog Byw Gwirioneddol godi i £14.10 yr awr ledled y DU (65 ceiniog neu 4.8% o gynnydd).

Mae ffigurau newydd yn dangos bod yr ymgyrch dros Gyflog Byw Gwirioneddol wedi arwain at bron i £5 biliwn o godiadau cyflog i weithwyr ar gyflogau isel, ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i filiynau o fywydau ledled y DU ers iddo ddechrau 25 mlynedd yn ôl. Mae dros £190 miliwn o’r swm hwnnw’n deillio o gyflogwyr yng Nghymru.

Mae dadansoddiad y Sefydliad Cyflog Byw yn dangos y byddai gweithiwr llawn amser sy’n cael y cyflog byw gwirioneddol newydd yn ennill £2,700 yn fwy bob blwyddyn na gweithiwr sy’n cael isafswm cyflog y llywodraeth ar hyn o bryd. Gallai’r arian ychwanegol hwn dalu am fwyd aelwyd am wyth mis neu gostau tŷ ac ynni am bum mis.

Dywedodd Emily Cotterill, Pennaeth Economi Deg yn Cynnal Cymru – Partner Achredu’r Sefydliad Cyflog Byw yng Nghymru:

“Gyda bron i 650 o gyflogwyr yng Nghymru’n talu’r Cyflog Byw, a llawer mwy o gyflogwyr Cyflog Byw yn gweithredu yma yng Nghymru, mae’r cyhoeddiad heddiw’n berthnasol i bobl ledled y wlad. Mae’r ymgyrch Cyflog Byw yn rhoi codiad cyflog i filoedd o weithwyr, ac yn eu cefnogi nhw, eu teuluoedd a’u heconomïau lleol.

Rydyn ni’n gwybod bod gwaith i’w wneud o hyd i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, ac mae tîm Cyflog Byw Cymru yma i helpu cyflogwyr, ni waeth ble maen nhw arni ar eu taith i gael eu hachredu fel rhan o’r mudiad Cyflog Byw.”

Dywedodd Emily Sawh, Cyd-gyfarwyddwr ar y Sefydliad Cyflog Byw:

“Bydd y cynnydd a gyhoeddwyd heddiw i’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cannoedd o filoedd o weithwyr a’u teuluoedd ar hyd a lled y wlad. Diolch i’r cynnydd, bydd ganddynt filoedd o bunnoedd yn fwy yn eu poced eleni. Bydd hyn yn eu helpu i gael safon byw deilwng a fydd yn eu galluogi i ffynnu.

Dechreuodd yr ymgyrch Cyflog Byw 25 mlynedd yn ôl fel syniad gobeithiol gan weithwyr ar gyflogau isel yn Nwyrain Llundain oedd eisiau ennill cyflog teg. Mae wedi tyfu i fod yn un o ymgyrchoedd mwyaf llwyddiannus yr unfed ganrif ar hugain, gyda dros 16,000 o gyflogwyr wedi ymrwymo i roi cyflog teg i’w holl weithwyr, a biliynau o bunnoedd wedi’u rhoi ym mhocedi’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Er bod yr ymgyrch Cyflog Byw wedi cael effaith aruthrol ar gyflogau yn y DU, mae miliynau o weithwyr yn dal yn byw mewn tlodi mewn gwaith, ac yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Maen nhw’n gorfod gwneud heb brydau bwyd, maen nhw ar ei hôl hi gyda biliau ac maen nhw’n gorfod defnyddio banciau bwyd. Dyna pam ein bod yn annog cyflogwyr i wneud y peth iawn drwy gofrestru i dalu’r Cyflog Byw gwirioneddol a rhoi’r safon byw deilwng sydd ei hangen ar weithwyr i ffynnu.”

Dywedodd Annie Davies, Prif Weithredwr Fabulous Welshcakes,

“Yma yn Fabulous Welshcakes, rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y peth iawn er mwyn ein pobl, i gefnogi ein cymuned leol ac i wneud dewisiadau cyfrifol dros yr amgylchedd. Mae dod yn gyflogwr Cyflog Byw wedi bod yn rhan o’r daith honno. Mae gennym dîm gwych o tua 30 o bobl, sydd i gyd yn gweithio’n galed ac yn cyfrannu at lwyddiant y busnes. Rydyn ni’n credu mai talu cyflog sy’n adlewyrchu’r costau byw yw’r peth iawn i’w wneud.

Rwy’n credu bod hyn yn helpu ein tîm i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod y gwaith maen nhw’n ei wneud yn cael ei gydnabod. Mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn nifer y bobl sy’n aros gyda ni yn y busnes. Mae pobl yn aros yn y tîm am amser hir, ac mae hynny’n wych ac yn golygu ein bod ni’n gwario llai o arian yn cyflogi ac yn hyfforddi pobl newydd.”

Discover More

Scroll to Top