Y Llywodraeth yn ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw i weithwyr Gofal Cymdeithasol

Yn ei Raglen Lywodraethu 2021-2026, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei fwriad o dalu Cyflog Byw gwirioneddol i weithwyr cymdeithasol.

Yn seiliedig ar ‘werthoedd Cymraeg amlwg o gymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol’ mae’r Raglen am ddangos sut y bydd y Llywodraeth yn helpu’r GIG a gweithwyr gofal i ‘adfer a symud ymlaen’ yn dilyn COVID 19.

Mewn llywodraethau blaenorol, cyfrifoldeb gweinidogion unigol oedd gofal cymdeithasol. I danlinellu’r ymrwymiad uchod, erbyn hyn mae’r Prif Weinidog a’r Cabinet llawn yn cymryd cyfrifoldeb. 

I gefnogi ymrwymiad y Llywodraeth, mae’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yn astudio sut y byddai’n bosibl gweithredu’r Cyflog Byw (er enghraifft, drwy fabwysiadu cytundeb cydfargeinio) a dysgu o brofiad yr Alban.. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf yngylch cynnydd y Fforwn Gofal Cymdeithasol ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru.

Scroll to Top